
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 12) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym am 4.00 a.m. ar 26 Medi 2020.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr y “Rheoliadau Teithio Rhyngwladol” yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020.
RHAN 2
2 
Yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol (gwledydd a thiriogaethau esempt y tu allan i’r ardal deithio gyffredin), hepgorer—“
 Curaçao”“
 Denmarc”“
 Gwlad yr Iâ”“
 Slofacia”.
3 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo person (“P”)—
(a) yn cyrraedd Cymru am 4:00 a.m. ar 26 Medi 2020 neu wedi hynny, a
(b) wedi bod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2 ddiwethaf—
(i) o fewn y cyfnod o 14 o ddiwrnodau sy’n dod i ben â’r diwrnod y mae P yn cyrraedd Cymru, a
(ii) cyn 4.00 a.m. ar 26 Medi 2020.
(2) Mae P, yn rhinwedd y ffaith iddo fod mewn gwlad neu diriogaeth a restrir yn rheoliad 2, i’w drin at ddibenion rheoliadau 7(1) ac 8(1) o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol fel pe bai wedi cyrraedd Cymru o wlad neu diriogaeth nad yw’n esempt, neu fel pe bai wedi cyrraedd ar ôl bod mewn gwlad neu diriogaeth o’r fath.
RHAN 3
4 

(1) Mae rheoliad 10 o’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (4)(jd) mewnosoder—“
(jh) pan fo P yn athletwr elît sydd wedi teithio i’r Deyrnas Unedig i gael un neu ragor o archwiliadau meddygol, i fynd i’r archwiliad hwnnw, ar yr amod—
(i) bod yr archwiliad meddygol at ddiben busnes sy’n penderfynu pa un ai i gynnig contract i P i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît ar ran y busnes hwnnw,
(ii) bod gan P gadarnhad ysgrifenedig yn ei feddiant oddi wrth y busnes hwnnw o’r trefniadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (i), a
(iii) bod y trefniadau hynny wedi eu gwneud cyn i P gyrraedd y Deyrnas Unedig;
(ji) pan fo P yn berson sy’n teithio gydag athletwr elît at ddiben is-baragraff (jh), i ddarparu cynorthwy a chymorth i’r athletwr elît hwnnw mewn cysylltiad ag archwiliad meddygol o’r fath;
(jj) pan fo P yn athletwr elît sydd wedi contractio â busnes i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth o’r fath neu ymgymryd â hyfforddiant neu weithgareddau eraill sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth elît honno;”;
(3) Ym mharagraff (8), yn y man priodol mewnosoder—“
 mae i “athletwr elît” (“elite athlete”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(a) o Atodlen 2”;“
 mae i “cystadleuaeth elît” (“elite competition”) yr un ystyr ag ym mharagraff 38(2)(b) o Atodlen 2”.
5 

(1) Yn Atodlen 2 (personau esempt) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol, mae paragraff 38 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-baragraff (1)(b), yn lle “darparu cymorth i athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn ei hyfforddi” rhodder “hyfforddi athletwr elît mewn cystadleuaeth elît dramor neu a fu fel arall yn darparu cymorth iddo”.
(3) Ar ôl is-baragraff (1)(c) mewnosoder—“
(d) sy’n athletwr elît a fu’n mynychu rhaglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,
(e) a fu’n darparu hyfforddiant neu gymorth arall i athletwr elît ar raglen hyfforddi dramor at ddiben hyfforddi neu baratoi’r athletwr elît hwnnw i gymryd rhan mewn cystadleuaeth elît,”.
(4) Yn y geiriau ar ôl is-baragraff (1)(e), ar ôl “gystadleuaeth elît dramor” mewnosoder “neu’r rhaglen hyfforddi dramor”.
6 

(1) Mae Atodlen 4 (digwyddiadau chwaraeon penodedig) i’r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 3, ar y diwedd mewnosoder—“
(i) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Camp Lawn Ddartiau Boylesports;
(j) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Rowndiau Terfynol Pencampwriaeth Chwaraewyr Ladbrokes;
(k) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Pencampwriaeth Ddartiau y Byd William Hill;
(l) Y Gorfforaeth Ddartiau Broffesiynol - Grand Prix y Byd Boylesports.”
(3) Ym mharagraff 5, ar y diwedd mewnosoder—“
(o) Taith Ewrop - Pencampwriaeth yr Alban.”
(4) Ym mharagraff 7, ar y diwedd mewnosoder—“
(c) Motorsport UK - Pencampwriaethau Ceir Gwyllt Prydain;
(d) Motorsport UK - Pencampwriaethau Rali Groes Prydain;
(e) Pencampwriaethau Ceir Teithio Prydain;
(f) Pencampwriaethau Rali Groes Prydain;
(g) Pencampwriaeth GT Prydain a Phencampwriaeth BRDC F3;
(h) Wythnos Gyflymder Goodwood;
(i) Gŵyl Formula Ford Brands Hatch.”
(5) Ym mharagraff 10, ar y diwedd mewnosoder—“
(g) Taith Snwcer y Byd - Rowndiau Rhagbrofol Pencampwriaeth Meistri yr Almaen;
(h) Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaeth Agored Gogledd Iwerddon;
(i) Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaethau’r DU;
(j) Taith Snwcer y Byd - Pencampwriaeth Agored yr Alban;
(k) Taith Snwcer y Byd - Grand Prix y Byd.”
(6) Ym mharagraff 14, ar y diwedd mewnosoder—“
(h) Pencampwriaeth Bocsio Ryngwladol - Queensberry Promotions.”
(7) Ar y diwedd mewnosoder—“
20. 
Pêl-rwyd - England Roses v Jamaica Sunshine Girls - Cyfres Pêl-rwyd Ryngwladol Vitality.”
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Am 3.13 p.m. ar 25 Medi 2020