
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael ac nid yw paragraff 1(1) o Atodlen 5 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 yn gymwys.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1), yn lle’r diffiniad o “taliadau uniongyrchol” rhodder—“
 mae i “taliadau uniongyrchol” yr ystyr a roddir i “direct payments” gan Erthygl 1 o’r Rheoliad Taliadau Uniongyrchol.”;
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y Rheoliad Dirprwyedig Llorweddol, y Rheoliad Gweithredu Llorweddol a’r Rheoliad Llorweddol, i’r graddau y maent yn ymwneud â’r taliadau uniongyrchol ar gyfer blwyddyn hawlio 2020, yn gyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y maent yn bodoli mewn cyfraith ddomestig.”
(3) Yn rheoliad 7, ym mharagraff (7)(a), ar y dechrau mewnosoder “ac eithrio materion sy’n ymwneud â thaliadau uniongyrchol ar gyfer blwyddyn hawlio 2020,”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) hepgorer “a (2)”, a
(b) yn lle “Erthygl 10(1)(b)” rhodder “Erthygl 10(1)”.
(3) Yn rheoliad 7, hepgorer “a (2)(c)”.
(4) Yn rheoliad 11(1) a (2), ar ôl “Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig” mewnosoder “fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

Am 3:51 p.m. ar 31 Ionawr 2020