
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ceisiadau Cynllunio (Addasiadau a Datgymhwyso Dros Dro) (Rhif 2) (Cymru) (Coronafeirws) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 18 Medi 2020.
2 

(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2G(2)(b), yn lle “gyda 18 Medi 2020” rhodder “gydag 8 Ionawr 2021”.
3 

(1) Mae Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 12(6A)(b), yn lle “gyda 18 Medi 2020” rhodder “gydag 8 Ionawr 2021”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
16 Medi 2020