
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dynodi Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Bwrdeistref Sirol Torfaen) 2019 a daw i rym ar 1 Gorffennaf 2019.
2 
Mae Gweinidogion Cymru yn dynodi’r ardal a ddisgrifir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn yn—
(a) ardal gorfodi sifil ar dramgwyddau parcio; a
(b) ardal gorfodi arbennig.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2019
YR ATODLEN
Erthygl 2
Ardal Bwrdeistref Sirol Torfaen (“y Fwrdeistref Sirol”) ac eithrio—
(a) y darn o Gefnffordd yr A4042 o fewn y Fwrdeistref Sirol, o’r ffin â Dinas Casnewydd hyd at y ffin â Sir Fynwy.