
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2019.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau 2011” yw Rheoliadau Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb (Cymru) 2011.
3 
Yn rheoliad 5(3) o Reoliadau 2011—
(a) yn is-baragraff (a), mae’r geiriau “, sef y targedau adolygedig a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol” i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019 i 2020; a
(b) yn is-baragraff (b), mae’r geiriau “sef y targedau dros dro a osodwyd yn y flwyddyn ysgol flaenorol ond a ddiwygir os yw’r corff llywodraethu yn barnu ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny” i’w trin fel pe baent wedi eu hepgor ar gyfer y flwyddyn ysgol 2019 i 2020.
4 

(1) Mae Rheoliadau 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniadau o “arholiad TGAU”, “FfCC”, “lefel FfCC”, “TGAU”, “trothwy lefel 1” a “trothwy lefel 2”; a
(b) hepgorer paragraff (2).
(3) Yn rheoliad 5—
(a) yn lle paragraff (4) rhodder—“
(4) Y chwe chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu ar sail ei werthusiad o berfformiad disgyblion yn yr ysgol mewn perthynas â’r flwyddyn ysgol flaenorol.”; a
(b) hepgorer paragraff (5).
(4) Yn rheoliad 8, yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “canlyniadau cyrhaeddiad disgyblion” yw’r ganran sy’n cyflawni’r chwe chyflawniad a osodwyd gan y corff llywodraethu yn unol â rheoliad 5(4).”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
5 Mehefin 2019