
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddfau Trethi Cymru (Diwygiadau Amrywiol) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Daw Rhan 2 a’r rheoliad hwn i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “DCRhT” (“TCMA”) yw Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016;ystyr “DTTT” (“LTTA”) yw Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017.
RHAN 2
2 
Ym mharagraff 16(1)(h) o Atodlen 6 i DTTT (rhwymedigaethau etc. tenantiaid nad ydynt yn cyfrif fel cydnabyddiaeth drethadwy), yn lle “gynllun y taliad sengl (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Theitl III o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 73/2009)” rhodder “gynllun y taliad sylfaenol (hynny yw, y cynllun cymorthdal incwm i ffermwyr yn unol â Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013)”.
RHAN 3
3 

(1) Mae Atodlen 18 i DTTT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff 1(a) mewnosoder—“
(aa) mae paragraffau 2A i 2D yn gwneud darpariaeth ynglŷn ag ystyr “elusen”,”.
(3) Ym mharagraff 2(3)(a), yn lle “Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13)” rhodder “baragraff 2A”.
(4) Ar ôl paragraff 2 mewnosoder—“
2A. 
At ddibenion yr Atodlen hon, ystyr “elusen” yw corff o bersonau neu ymddiriedolaeth—
(a) sydd wedi ei sefydlu at ddibenion elusennol yn unig,
(b) sy’n bodloni’r amod awdurdodaeth (gweler paragraff 2B),
(c) sy’n bodloni’r amod cofrestru (gweler paragraff 2C), a
(d) sy’n bodloni’r amod rheoli (gweler paragraff 2D).
2B. 

(1) Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod awdurdodaeth os yw’n dod yn ddarostyngedig i reolaeth llys perthnasol yn y DU wrth arfer ei awdurdodaeth mewn cysylltiad ag elusennau.
(2) Ystyr “llys perthnasol yn y DU” yw—
(a) yr Uchel Lys,
(b) y Llys Sesiwn, neu
(c) yr Uchel Lys yng Ngogledd Iwerddon.
2C. 

(1) Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod cofrestru—
(a) yn achos corff o bersonau neu ymddiriedolaeth sy’n elusen o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25), os yw amod A wedi ei fodloni, a
(b) yn achos unrhyw gorff o bersonau neu ymddiriedolaeth arall, os yw amod B wedi ei fodloni.
(2) Amod A yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru yn y gofrestr o elusennau a gedwir o dan adran 29 o Ddeddf Elusennau 2011.
(3) Amod B yw bod y corff o bersonau neu’r ymddiriedolaeth wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod wedi ei gofrestru neu wedi ei chofrestru mewn cofrestr sy’n cyfateb i’r hyn a grybwyllir yn amod A a gedwir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
2D. 

(1) Mae corff o bersonau neu ymddiriedolaeth yn bodloni’r amod rheoli os yw ei reolwyr neu ei rheolwyr yn bersonau addas a phriodol i fod yn rheolwyr y corff neu’r ymddiriedolaeth.
(2) Yn y paragraff hwn ystyr “rheolwyr”, mewn perthynas â chorff o bersonau neu ymddiriedolaeth, yw’r personau sydd â rheolaeth gyffredinol dros weinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth, ac sy’n rheoli gweinyddiaeth y corff neu’r ymddiriedolaeth yn gyffredinol.
(3) Mae is-baragraff (4) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyfnod nad yw’r amod rheoli yn cael ei fodloni ar ei hyd.
(4) Mae’r amod rheoli yn cael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni os yw ACC yn ystyried—
(a) nad yw’r methiant i fodloni’r amod wedi niweidio dibenion elusennol y corff neu’r ymddiriedolaeth, neu
(b) ei bod yn deg ac yn rhesymol o dan yr holl amgylchiadau i’r amod gael ei drin fel pe bai wedi ei fodloni ar hyd y cyfnod.”
(5) Mae’r diwygiadau a wneir gan y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau tir y mae eu dyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.
RHAN 4
4 

(1) Mae cynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth o’r disgrifiad ym mharagraff (2) i’w drin fel pe na bai’n gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth at ddibenion DTTT a DCRhT fel y mae’n gymwys mewn perthynas â threth trafodiadau tir.
(2) Y disgrifiad yw bod y cynllun—
(a) wedi ei gyfansoddi o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE drwy gontract,
(b) wedi ei reoli gan gorff corfforaethol a ymgorfforir o dan gyfraith Gwladwriaeth AEE, ac
(c) wedi ei awdurdodi o dan gyfraith y Wladwriaeth AEE a grybwyllir yn is-baragraff (a) mewn ffordd sy’n golygu ei fod, o dan y gyfraith honno, yn cyfateb i gynllun contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth a ddiffinnir yn adran 36(7) o DTTT.
(3) Mae’r rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas ag unrhyw drafodiad tir y mae ei ddyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.
RHAN 5
5 

(1) Mae DCRhT wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 4 (anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol), hepgorer paragraff (c).
(3) Yn adran 65(4)(a) (cyfoethogi anghyfiawn: darpariaeth bellach), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “ddeddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir”.
(4) Yn adran 67(11) (achosion pan na fo angen i ACC roi effaith i hawliad)—
(a) hepgorer y geiriau o “os yw’r dreth ddatganoledig” hyd at “yn groes i”;
(b) ym mharagraff (a), yn lle “y darpariaethau” rhodder “os yw’r dreth ddatganoledig a godir, yn yr amgylchiadau o dan sylw, yn groes i’r darpariaethau”;
(c) ar ôl paragraff (a), yn lle “neu” rhodder “a”;
(d) yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) os yw’r hawliau a roddir gan y darpariaethau hynny, ar yr adeg y codir y dreth, yn cael eu cydnabod ac ar gael mewn cyfraith ddomestig yn rhinwedd Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno.”
RHAN 6
6 

(1) Yn adran 85(3) o DCRhT (ystyr “rhedeg busnes”), yn lle “Ran 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid 2010 (p. 13)” rhodder “baragraff 2A o Atodlen 18 i DTTT”.
(2) Yn adran 36 o DTTT (cynlluniau contractiol awdurdodedig cyfberchnogaeth)—
(a) hepgorer is-adran (6);
(b) yn is-adran (12), yn y diffiniad o “gweithredwr”—
(i) hepgorer yr “, a” ar ôl paragraff (a);
(ii) hepgorer paragraff (b) (ac mae gweddill y testun yn peidio â bod yn baragraff (a)).
(3) Mae’r diwygiadau a wneir gan y rheoliad hwn yn cael effaith mewn perthynas â thrafodiadau tir y mae eu dyddiad cael effaith ar y diwrnod ymadael neu ar ôl hynny.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
2 Ebrill 2019