
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Darpariaethau Atodol) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Ebrill 2019 yn ddarostyngedig i baragraff (3).
(3) Daw rheoliad 3 i rym ar y diwrnod y daw adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 i rym.
2 

(1) Mae adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (3) hepgorer “gyda chytundeb yr Arglwydd Brif Ustus”.
(3) Yn is-adran (4) hepgorer “gyda chytundeb y Llywydd”.
3 

(1) Yn Rhan 3 o Atodlen 14 i Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005, mae Tabl 1 (penodiadau gan yr Arglwydd Ganghellor) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r cofnod sy’n ymwneud ag adran 332(2) o Ddeddf Addysg 1996 a’r swyddi y mae’r adran honno yn ymwneud â hwy, rhodder —“
President of the Education Tribunal for WalesMember of the legal chair panel of the Education Tribunal for Wales Section 91(3) and (4) of the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018”
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
3 Ebrill 2019