
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth ac Asesiadau Poblogaeth (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
(2) Dawʼr Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth” (“the Population Assessment Regulations”) yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Trefniadau Partneriaeth ar gyfer Asesiadau Poblogaeth) (Cymru) 2015;
 ystyr “y Rheoliadau Partneriaeth” (“the Partnership Regulations”) yw Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015.
2 
Mae’r Rheoliadau Partneriaeth wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3 
Yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli), ym mharagraff (4) mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y lle priodol—“
 ystyr “ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol” (“regional partnership board areas”) yw pob un o’r priod ardaloedd y mae’n ofynnol i gyrff partneriaeth ymrwymo i drefniadau partneriaeth ynddynt o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol;”“
 ystyr “pobl hŷn” (“older people”) yw personau sy’n 65 oed neu drosodd;”.
4 
Yn rheoliad 5 (trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Baeʼr Gorllewin)—
(a) yn y pennawd, yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg”;
(b) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”, a
(ii) hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;
(c) ym mharagraff (2), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg”;
(d) ym mharagraff (3), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Bae’r Gorllewin” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Gorllewin Morgannwg”.
5 
Yn rheoliad 6 (trefniadau partneriaeth o dan gyfarwyddyd bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf)—
(a) yn y pennawd, yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg”;
(b) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”, a
(ii) ar ôl “Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf” mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”,
(c) ym mharagraff (2), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg”;
(d) ym mharagraff (3), yn lle “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf” rhodder “bwrdd partneriaeth rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg”.
6 

(1) Mae rheoliad 11 (aelodaeth o fyrddau partneriaeth rhanbarthol) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) ym mharagraff (1)(d), o flaen “cynrychiolydd” mewnosoder “o leiaf un”;
(b) ym mharagraff (1)(e), yn lle “dau” rhodder “o leiaf ddau”;
(c) ym mharagraff (1)(g), o flaen “un person” mewnosoder “o leiaf”;
(d) ym mharagraff (1)(h), o flaen “un person” mewnosoder “o leiaf”;
(e) ym mharagraff (1)(h), yn lle “.” rhodder—“;
(i) o leiaf un uwch-swyddog awdurdod lleol syʼn gyfrifol am dai gan gynnwys y cyfrifoldeb am fuddsoddiad cyfalaf mewn tai, neu gysylltiadau â’r buddsoddiad cyfalaf hwnnw, yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;
(j) o leiaf un person syʼn cynrychioli landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol;
(k) o leiaf un uwch-swyddog awdurdod lleol sy’n gyfrifol am addysg yn yr ardal a gwmpesir gan y bwrdd partneriaeth rhanbarthol.”
(2) Ym mharagraff (4) mewnosoder y diffiniad a ganlyn yn y lle priodol—“
 ystyr “landlord cymdeithasol cofrestredig” (“registered social landlord”) yw corff Cymreig sydd wedi ei gofrestru â Gweinidogion Cymru o dan Ran 1 o Ddeddf Tai 1996;”.
7 
Yn rheoliad 12 (adroddiadau), ym mharagraff (3)—
(a) yn lle “wedi hynny” rhodder “o fis Ebrill 2019”;
(b) ar ôl “yn flynyddol” mewnosoder “erbyn 30 Mehefin fan bellaf”.
8 
Yn rheoliad 13 (rhannu gwybodaeth), ym mharagraff (1), yn lle “gan y” rhodder “yn unol âʼr”.
9 
Yn rheoliad 16 (sefydlu timau integredig cymorth i deuluoedd), ym mharagraff (1), yn lle “trefniadau partneriaeth” rhodder “ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol”.
10 
Yn lle rheoliad 19 (sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun) rhodder—“
19. 

(1) Rhaid i gyrff partneriaeth ar gyfer pob un o’r ardaloedd bwrdd partneriaeth rhanbarthol sefydlu a chynnal—
(a) cronfa gyfun ranbarthol mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn, a
(b) cronfa gyfun mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau cymorth i deuluoedd.
(2) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, sy’n dechrau â’r flwyddyn ariannol sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2019, rhaid i bob corff partneriaeth wneud cyfraniad at y gronfa gyfun ranbarthol mewn perthynas ag arfer eu swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn sy’n gymesur â’i wariant blynyddol disgwyliedig ar leoedd mewn cartrefi gofal i bobl hŷn.
(3) Nid oes dim byd yn y rheoliad hwn sy’n atal cyrff partneriaeth rhag sefydlu a chynnal cronfeydd cyfun neu gronfeydd cyfun rhanbarthol ar gyfer cyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a bennir yn Atodlen 1.
(4) Os yw unrhyw rai o’r cyrff partneriaeth yn penderfynu arfer eu swyddogaethau ar y cyd mewn ymateb i’r asesiad a gynhelir o dan adran 14 o’r Ddeddf, rhaid iddynt ystyried a yw’n briodol sefydlu a chynnal cronfa gyfun.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
 ystyr “cartref gofal” (“care home”) yw mangre y darperir gwasanaeth cartref gofal ynddi, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu drosodd;
 ystyr “cronfa gyfun ranbarthol” (“regional pooled fund”) yw un gronfa gyfun y mae pob un o’r cyrff partneriaeth ar gyfer ardal bwrdd partneriaeth rhanbarthol yn gwneud cyfraniadau ati;
 ystyr “swyddogaethau llety cartref gofal i bobl hŷn” (“care home accommodation functions for older people”) yw—
(a) swyddogaethau awdurdod lleol o dan adrannau 35 ac 36 o’r Ddeddf, pan fo’r rhain yn cael eu harfer mewn perthynas â phobl hŷn i ddarparu llety mewn cartrefi gofal;
(b) swyddogaethau Bwrdd Iechyd Lleol o dan adran 3 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 pan fônt yn cael eu harfer mewn perthynas â phobl hŷn—
(i) y mae arnynt angen sylfaenol am ofal iechyd syʼn cael ei ddiwallu drwy drefnu darparu llety ynghyd â nyrsio mewn cartrefi gofal, neu
(ii) nad oes arnynt angen sylfaenol am ofal iechyd ond y mae arnynt anghenion na ellir eu diwallu ond drwyʼr awdurdod lleol yn trefnu darparu llety ynghyd â nyrsio mewn cartref gofal.”
11 
Maeʼr Rheoliadau Asesiadau Poblogaeth wedi eu diwygio yn unol âʼr rheoliad a ganlyn.
12 
Yn yr Atodlen (trefniadau partneriaeth penodedig), maeʼr tabl ar gyfer trefniadau partneriaeth wedi ei ddiwygio fel a ganlyn—
(a) yn y golofn gyntaf (bwrdd iechyd lleol), yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”;
(b) yn yr ail golofn gyfatebol (awdurdod lleol), ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;
(c) yn y golofn gyntaf (bwrdd iechyd lleol), yn lle “Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”;
(d) yn yr ail golofn gyfatebol (awdurdod lleol), ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
29 Mawrth 2019