
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliadau 3 a 4, i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Daw rheoliadau 3 a 4 i rym ar y diwrnod sydd flwyddyn ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) yn y diffiniad o “tatws hadyd sylfaenol”, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—“, yn datgan bod y tatws wedi eu hardystio’n datws hadyd sylfaenol a’r radd, yn unol ag—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith paragraffau 2, 5, 7, 9, 10 ac 11 o Ran 1 o Atodlen 2;
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 13(1)(a) o’r Gyfarwyddeb;”;
(b) yn y diffiniad o “categori” hepgorer y geiriau “yn unol â chytundeb masnach y Swistir”;
(c) yn y diffiniad o “ardystio” ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—“yn unol ag—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 10(2) a (3);
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, y Gyfarwyddeb;”;
(d) yn y diffiniad o “tatws hadyd ardystiedig” ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—“, yn datgan bod y tatws wedi eu hardystio’n datws hadyd ardystiedig a’r radd, yn unol ag—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith paragraffau 3, 5, 7, 9, 10 ac 11 o Atodlen 2;
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 13(1)(a) o’r Gyfarwyddeb;”;
(e) ar ôl y diffiniad o “tatws hadyd sylfaenol” mewnosoder—“
 ystyr “Tiriogaeth Ddibynnol y Goron” (“Crown Dependency”) yw Ynys Manaw ac unrhyw un o Ynysoedd y Sianel;”
(f) ar ôl y diffiniad o “pecyn neu gynhwysydd” mewnosoder—“
 ystyr “y Rheoliadau GMO” (“the GMO Regulations”) yw—
(a) o ran Lloegr, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) 2002;
(b) o ran Cymru, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002;
(c) o ran yr Alban, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Yr Alban) 2002;
(d) o ran Gogledd Iwerddon, Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Gogledd Iwerddon) 2003;”;
(g) yn lle’r diffiniad o “gradd” rhodder—“
 mae “gradd” (“grade”) yn cynnwys gradd y Deyrnas Unedig;”;
(h) yn lle’r diffiniad o “Rhestr Genedlaethol” rhodder—“
 ystyr “Rhestr Genedlaethol” (“National List”) yw rhestr o amrywogaethau o rywogaethau tatws sydd wedi ei llunio a’i chyhoeddi yn unol â rheoliad 3 o’r Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol;”;
(i) yn y diffiniad o “dogfen swyddogol” ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “gofynion” hyd at y diwedd rhodder—“gofynion—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith gofynion Rhan 2 o Atodlen 2;
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 13(1)(b) o’r Gyfarwyddeb;”;
(j) yn y diffiniad o “label swyddogol” ym mharagraff (b), hepgorer “gofynion” ac yn lle’r geiriau o “Erthygl 13(1)(a)” hyd at y diwedd rhodder—“ofynion—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith gofynion Rhan 1 o Atodlen 2;
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 13(1)(a) neu 18(f) o’r Gyfarwyddeb neu Erthygl 9 o’r Penderfyniad;”;
(k) yn y diffiniad o “tatws hadyd cyn-sylfaenol”, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—“, yn datgan bod y tatws wedi eu hardystio’n datws hadyd cyn-sylfaenol a’r radd, yn unol ag—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith paragraffau 1, 5, 6, 9, 10 ac 11 o Ran 1 o Atodlen 2;
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 18(f) o’r Gyfarwyddeb;”;
(l) yn lle’r diffiniad o “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” rhodder—“
 ystyr “tatws hadyd o amrywogaeth gadwraeth” (“seed potatoes of a conservation variety”) yw unrhyw amrywogaeth o datws hadyd a restrir fel amrywogaeth gadwraeth yn y Rhestr Genedlaethol;”;
(m) yn y diffiniad o “tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru”, ym mharagraff (b) hepgorer “ac eithrio’r Deyrnas Unedig”;
(n) ar ôl y diffiniad o “y Rheoliadau Rhestrau Cenedlaethol” mewnosoder—“
 ystyr “y rheoliadau tatws hadyd” (“the seed potatoes regulations”) yw—
(a) o ran Lloegr, Reoliadau Tatws Hadyd (Lloegr) 2015;
(b) o ran yr Alban, Reoliadau Tatws Hadyd (Yr Alban) 2015;
(c) o ran Gogledd Iwerddon, Reoliadau Tatws Hadyd (Gogledd Iwerddon) 2016;ac ystyr “y rheoliadau tatws hadyd perthnasol” (“the relevant seed potatoes regulations”), o ran unrhyw ran gyfansoddol o’r Deyrnas Unedig, yw’r rheoliadau tatws hadyd sy’n gymwys o ran y rhan honno;;”;
(o) yn y diffiniad o “tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu”, ym mharagraff (b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—“yn unol ag—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith paragraffau 4, 5, 8, 9, 10 ac 11(c) o Ran 1 o Atodlen 2;
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 9 o’r Penderfyniad”;
(p) yn lle’r diffiniad o “gradd yr Undeb” rhodder—“
 ystyr “gradd yr Undeb” (“Union grade”), mewn perthynas â thatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, yw—
(a) yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC yr Undeb neu radd PB yr Undeb, y nodir yr amodau gofynnol ar eu cyfer yn Erthyglau 2 a 3 o Gyfarwyddeb 2014/21/EU ac Atodiad 1 iddi;
(b) yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb, y nodir yr amodau gofynnol ar eu cyfer yn Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2014/20/EU ac Atodiad 1 iddi;
(c) yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A yr Undeb neu radd B yr Undeb, y nodir yr amodau gofynnol ar eu cyfer yn Erthygl 2 o Gyfarwyddeb 2014/20/EU ac Atodiad 2 iddi;”;
(q) ar ôl y diffiniad o “gradd” mewnosoder—“
 ystyr “gradd y Deyrnas Unedig” (“United Kingdom grade”) yw—
(a) o ran tatws hadyd a gynhyrchir yng Nghymru, gradd y Deyrnas Unedig a bennir yn unol ag Atodlen 4 wrth ardystio, sef—
(i) yn achos tatws hadyd cyn-sylfaenol, gradd PBTC y DU neu radd PB y DU;
(ii) yn achos tatws hadyd sylfaenol, gradd S y DU, gradd SE y DU neu radd E y DU;
(iii) yn achos tatws hadyd ardystiedig, gradd A y DU neu radd B y DU;
(b) o ran tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig ac eithrio yng Nghymru, gradd y Deyrnas Unedig a bennir yn unol â’r rheoliadau tatws hadyd perthnasol;”;
(r) ym mharagraff 2, hepgorer y geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd;
(s) hepgorer paragraff (4).
(3) Yn rheoliad 4, yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.
(4) Yn rheoliad 5, ym mharagraff 3(b), yn lle’r geiriau o “yn unol” hyd at y diwedd rhodder—“yn unol ag—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith rheoliad 8;
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 6(1)(a) o’r Gyfarwyddeb;”;
(5) Yn rheoliad 6—
(a) ym mharagraff (3), yn lle’r geiriau o’r dechrau hyd at “Gyfarwyddeb 2008/62/EC” rhodder “Pan fyddai’r symiau yn debygol o fod yn fwy na’r symiau a bennir yn Erthygl 14 o Gyfarwyddeb 2008/62/EC fel arall”;
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) At ddibenion paragraff (3), mae Erthygl 14 o Gyfarwyddeb 2008/62/EC i’w darllen fel pe bai—
(a) yn y paragraff cyntaf, yn y frawddeg gyntaf—
(i) y geiriau “Each Member State shall ensure that” wedi eu hepgor;
(ii) y geiriau “may not exceed” wedi eu rhoi yn lle “does not exceed”;
(iii) cyfeiriad at “the United Kingdom” yn cael ei roi yn lle’r cyfeiriad at “that Member State”;
(b) yn yr ail baragraff—
(i) yn y frawddeg gyntaf, cyfeiriad at “the United Kingdom” yn cael ei roi yn lle’r cyfeiriad at “each Member State”;
(ii) cyfeiriadau at “the United Kingdom” yn cael eu rhoi yn lle’r cyfeiriadau at “the Member State”, yn y ddau le y maent yn digwydd”.”.
(6) Yn rheoliad 8(2), yn lle’r geiriau o “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” hyd at y diwedd rhodder—“—
(a) y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid;
(b) y rheoliadau GMO; neu
(c) cyn y diwrnod ymadael, Ran C o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol”.
(7) Yn rheoliad 9—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “sy’n fwy nag a ganiateir gan Erthygl 7 o’r Penderfyniad” rhodder “sy’n fwy na pha un bynnag sydd fwyaf o 0.1% o nifer blynyddol y tatws hadyd a ddefnyddir yn y Deyrnas Unedig neu unrhyw swm y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn ddigonol er mwyn hau 10 hectar”;
(ii) yn is-baragraff (b), yn lle’r geiriau o “y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid” hyd at y diwedd rhodder—“—
(i) y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid;
(ii) y rheoliadau GMO; neu
(iii) cyn y diwrnod ymadael, Ran C o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol”;
(b) ym mharagraff (6)(b), hepgorer “neu yn y Catalog Cyffredin”;
(c) ym mharagraff (8)(b), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”.
(8) Yn rheoliad 11(3)(b), yn lle’r geiriau o “yn unol â’r Gyfarwyddeb” hyd at y diwedd rhodder—“, mewn cysylltiad â marchnata tatws o’r categori hwnnw, yn unol ag—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith is-baragraff (a);
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, y Gyfarwyddeb”.
(9) Yn rheoliad 14(2)(b), yn lle’r geiriau o “yn unol ag” hyd at y diwedd rhodder—“yn unol ag—
(i) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig, y rheoliadau tatws hadyd perthnasol;
(ii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Tiriogaeth Ddibynnol y Goron, ddeddfwriaeth y mae Gweinidogion Cymru yn cydnabod bod ei heffaith yn cyfateb i effaith is-baragraff (a);
(iii) yn achos tatws hadyd a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, Erthygl 11(1) o’r Gyfarwyddeb”.
(10) Yn rheoliad 16—
(a) yn y pennawd, yn lle “o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd” rhodder “a fewnforir i Gymru”;
(b) ailrifer y testun presennol yn baragraff (1);
(c) ym mharagraff (1)—
(i) ar y dechrau mewnosoder y geiriau “Yn ddarostyngedig i baragraff (2),”;
(ii) hepgorer y geiriau “o wlad y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd”;
(d) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—“
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson sy’n marchnata mwy na 2 gilogram o datws hadyd sydd wedi eu mewnforio i Gymru o—
(a) lle sydd o fewn Ynysoedd Prydain;
(b) Aelod-wladwriaeth neu’r Swistir.”
(11) Ar ôl rheoliad 23 mewnosoder—“
23A. 
Mae label a ragargraffwyd cyn y diwrnod ymadael a oedd yn label swyddogol at ddibenion y Rheoliadau hyn ar y dyddiad y’i hargraffwyd i’w drin fel label swyddogol at ddibenion unrhyw ddefnydd o’r label hwnnw cyn diwedd y cyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.”
(12) Yn Atodlen 1 ym mharagraffau 5, 6, 8 a 10, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y DU”.
(13) Yn Atodlen 2—
(a) ym mharagraff 6(a), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;
(b) ym mharagraff 7—
(i) yn is-baragraff (a), yn lle “EU” rhodder “UK”;
(ii) yn is-baragraff (b)(i), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;
(c) ym mharagraff 8(b)(i), yn lle “Aelod-wladwriaeth” rhodder “wlad”;
(d) ym mharagraff 9—
(i) yn lle “sy’n ofynnol gan” rhodder “a bennir yn”;
(ii) ar y diwedd, mewnosoder “sydd i’w ddarllen fel pe bai, ym mhwynt (a), “UK” wedi ei roi yn lle “EC””;
(e) ym mharagraff 11, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y DU”.
(14) Yn Atodlen 3—
(a) ym mhenawdau Rhannau 1 a 2, yn lle “yr Undeb” rhodder “y DU”;
(b) yn y tabl yn Rhan 3, yng ngholofn 2, yn lle “yr Undeb”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “y DU”.
(15) Mae Atodlen 4 wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau 16 i 18.
(16) Yn Rhan 1—
(a) yn y paragraff sy’n dod o flaen Tabl 1, yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”;
(b) yn Nhabl 1—
(i) ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “y DU”;
(ii) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “PB”, yng ngholofn 2, ym mharagraff (1)(b), yn lle “gradd PB yr Undeb” rhodder “gradd PB y DU neu radd PB yr Undeb”.
(17) Yn Rhan 2—
(a) yn y paragraff sy’n dod o flaen Tabl 2, yn lle “Undeb” rhodder “Deyrnas Unedig”;
(b) yn Nhabl 2—
(i) ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “y DU”;
(ii) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “S”, yng ngholofn 2, yn lle “radd S yr Undeb” rhodder “radd S y DU neu radd S yr Undeb”;
(iii) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “SE”, yng ngholofn 2, yn lle “radd S yr Undeb neu’n radd SE yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU neu radd SE yr Undeb”;
(iv) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “E”, yng ngholofn 2—(aa) ym mharagraff (1)(a), yn lle “radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU, gradd S yr Undeb neu radd SE yr Undeb”;(bb) ym mharagraff (1)(b), yn lle “radd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb” rhodder “radd S y DU, gradd SE y DU, gradd E y DU, gradd S yr Undeb, gradd SE yr Undeb neu radd E yr Undeb”.
(18) Yn Rhan 3 yn Nhabl 3—
(a) ym mhennawd colofn 1, yn lle “yr Undeb” rhodder “y DU”;
(b) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “A”, yng ngholofn 2
 yn lle “radd A yr Undeb” rhodder “radd A y DU neu radd A yr Undeb”;
(c) yn y rhes sy’n ymwneud â gradd “B”, yng ngholofn 2—
(i) yn lle “radd A yr Undeb” rhodder “radd A y DU neu radd A yr Undeb”;
(ii) yn lle “radd B yr Undeb” rhodder “radd B y DU neu radd B yr Undeb”.
(19) Ym mhennawd Atodlen 6, yn lle “ac eithrio Aelod-wladwriaeth” rhodder “y tu allan i Ynysoedd Prydain”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 fel y’u diwygir gan reoliad 2 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) yn y diffiniad o “tatws hadyd sylfaenol”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);
(b) yn y diffiniad o “ardystio” , ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);
(c) yn y diffiniad o “tatws hadyd ardystiedig”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);
(d) yn y diffiniad o “dogfen swyddogol”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);
(e) yn y diffiniad o “label swyddogol”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);
(f) yn y diffiniad o “tatws hadyd cyn-sylfaenol”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);
(g) yn y diffiniad o “tatws hadyd a gynhyrchir y tu allan i Gymru”, hepgorer paragraffau (b) ac (c);
(h) yn y diffiniad o “tatws hadyd sydd i’w profi a’u treialu”, ym mharagraff (b) hepgorer is-baragraff (iii);
(3) Yn rheoliad 11(3)(b), hepgorer is-baragraff (iii);
(4) Yn rheoliad 14(2)(b), hepgorer is-baragraff (iii);
(5) Yn rheoliad 16, hepgorer paragraff (2)(b).
(6) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 3(a) hepgorer “neu yn y Catalog Cyffredin”.
4 

(1) Yn achos tatws hadyd—
(a) a gynhyrchir mewn Aelod-wladwriaeth neu yn y Swistir, a
(b) a fewnforir i Gymru cyn i reoliad 3 ddod i rym,
mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Cymru) 2016 yn parhau i gael effaith fel pe na bai’r diwygiadau a wneir gan reoliad 3 mewn grym.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2019 ar 6pm