
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r rheoliad hwn a rheoliad 8 i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.
(3) Daw gweddill y Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Ym mharagraff 13 o Ran 2 o Atodlen 3 i Reoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007, hepgorer is-baragraff (2).
3 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 17, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a)—
(a) yn lle “yw blwch 30, 31, 33 neu 34 o’r” rhodder “yw’r”; a
(b) yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng Nghymru”.
(3) Yn rheoliad 38, yn lle “masnach rhwng” rhodder “mewnforion o”.
4 
Yn rheoliad 30 o Reoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012, yn lle’r geiriau “Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion” rhodder “Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu dros dro farchnata hadau nad ydynt yn bodloni’r gofynion o ran yr egino lleiaf o dan amodau a bennir yn unol â”.
5 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid (Ffioedd Amrywiol) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio Aelod-wladwriaeth heblaw am—
(a) yn rheoliad 4, mae iddo’r ystyr a roddir i “third country” yn Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003 ar reoli salmonela a chyfryngau milheintiol penodedig eraill a gludir mewn bwyd; a
(b) yn rheoliad 9 ac Atodlen 6, mae iddo’r ystyr a roddir yn Rheoliadau 2011.”
(3) Yn rheoliad 4(1) hepgorer “genedlaethol”, ac yn ei bennawd hepgorer “cenedlaethol”.
(4) Yn y pennawd i Atodlen 1, hepgorer “cenedlaethol”.
6 
Yn rheoliad 5(6)(e) o Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2018, yn lle “Gomisiwn yr UE” rhodder “Weinidogion Cymru”.
7 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Uchaf Gweddillion) (Cymru) 2019, yn y diffiniad o “sylwedd anawdurdodedig” (“unauthorised substance”) yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.
8 

(1) Mae Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 8(a)—
(a) yn is-baragraff (i)—
(i) yn y diffiniad a fewnosodwyd o “awdurdod iechyd planhigion priodol y DU”, ar ôl paragraff (e) mewnosoder—“
(f) o ran Beilïaeth Guernsey, Pwyllgor yr Amgylchedd a Seilwaith Taleithiau Guernsey;
(g) o ran Beilïaeth Jersey, Adran yr Amgylchedd Taleithiau Jersey;
(h) o ran Ynys Manaw, Adran yr Amgylchedd, Bwyd ac Amaethyddiaeth Ynys Manaw;”;
(ii) ar ôl y diffiniad a fewnosodwyd o “y rhestr o ddeunydd wedi ei heigio gwaharddedig”, mewnosoder—“
 ystyr “tiriogaeth ddibynnol ar y Goron” (“CD territory”) yw Beilïaeth Guernsey, Beilïaeth Jersey neu Ynys Manaw;”;
(b) yn lle is-baragraff (xxviii) rhodder—“
(xxviii) yn lle’r diffiniad o “trydedd wlad” rhodder—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain”;”.
(3) Yn lle rheoliad 15 rhodder—“
15. 
Yn erthygl 8—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “gyflwynir i Gymru ym mhaciau teithiwr neu dramwywr arall” rhodder “ddygir i Gymru ym mhaciau teithiwr neu dramwywr arall sy’n dod o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir, neu i unrhyw ddeunydd esempt a ddygir i Gymru ym mhaciau teithiwr neu dramwywr arall sy’n dod o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir”;
(ii) ym mharagraff (a), yn lle “(f)” rhodder “(h)”;
(iii) ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(ba) erthygl 6A(1);”;
(iv) ar ôl is-baragraff (d), mewnosoder—“
(e) erthygl 12A;”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (a), ar ôl “yw” mewnosoder “unrhyw un neu ragor o’r deunydd perthnasol a ganlyn sy’n tarddu o drydedd wlad, ac eithrio’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir”;
(ii) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“(aa) ystyr “deunydd esempt” (“exempt material”) yw unrhyw feintiau bach o ddeunydd perthnasol sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir, ac eithrio planhigion Castanea Mill. a fwriedir ar gyfer eu plannu, planhigion Fraxinus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu neu blanhigion, ac eithrio hadau, Platanus L. a fwriedir ar gyfer eu plannu;””.
(4) Yn rheoliad 27—
(a) ym mharagraff (a)—
(i) yn nhestun is-baragraff (e) a amnewidiwyd, yn lle “o Brydain Fawr” rhodder “o’r Deyrnas Unedig neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;
(ii) yn nhestun is-baragraff (f) a amnewidiwyd, ar ôl “Deyrnas Unedig” mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;
(b) ym mharagraff (b)—
(i) yn nhestun is-baragraff (1B)(d) a fewnosodwyd, ar ôl “Deyrnas Unedig” mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;
(ii) yn nhestun is-baragraff (1B)(e) a fewnosodwyd, ar ôl “Deyrnas Unedig” mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;
(5) Yn rheoliad 28—
(a) ym mharagraff (b)—
(i) yn nhestun paragraff (1)(a) a amnewidiwyd, ar y diwedd mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;
(ii) yn nhestun paragraff (1)(b) a amnewidiwyd, yn lle’r geiriau “o dan erthygl 12” rhodder “ar ran Gweinidogion Cymru o dan erthygl 12(1) neu gan neu ar ran awdurdod iechyd planhigion priodol arall y DU mewn dull cyfatebol;”;
(iii) ar ôl testun paragraff (1)(b) a amnewidiwyd mewnosoder—“
(c) yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir a ddygwyd i fan cyrraedd yn y Deyrnas Unedig, unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reolir sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir ac yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru amdano yn unol ag erthygl 6(1), neu yr hysbyswyd awdurdod iechyd planhigion priodol y DU amdano yn unol â gofynion cyfatebol o dan y Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol.”;
(iv) yn nhestun paragraff (2)(a) a amnewidiwyd, ar y diwedd mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;
(v) yn lle testun paragraff (2)(b) a amnewidiwyd rhodder—“
(b) unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reolir mewn ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu mewn cysylltiad â’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu a ollyngir ar ran Gweinidogion Cymru o dan erthygl 12(1) neu gan neu ar ran awdurdod iechyd planhigion priodol arall y DU mewn dull cyfatebol;
(c) yn achos unrhyw ddeunydd perthnasol hysbysadwy sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir a ddygwyd i fan cyrraedd yn y Deyrnas Unedig, unrhyw ddeunydd perthnasol a bennir yn y rhestr o ddeunydd a reolir mewn ardaloedd sy’n rhydd rhag plâu mewn cysylltiad â’r ardal berthnasol yn y DU sy’n rhydd rhag plâu—
(i) sy’n tarddu o’r Undeb Ewropeaidd neu’r Swistir; a
(ii) yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru amdano yn unol ag erthygl 6(1), neu yr hysbyswyd yr awdurdod iechyd planhigion priodol y DU amdano yn unol â gofynion cyfatebol o dan y Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol.”;
(vi) yn nhestun paragraff (3) a amnewidiwyd—(aa) yn y geiriau cyn is-baragraff (a), ar ôl “diriogaethau eraill y DU” mewnosoder “neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;(bb) ar y diwedd mewnosoder—“
(e) yn achos deunydd perthnasol y bwriedir iddo fynd i diriogaeth ddibynnol ar y Goron, unrhyw ddeunydd perthnasol o ddisgrifiad a bennir at ddibenion y paragraff hwn yn y ddeddfwriaeth iechyd planhigion sy’n gymwys yn y diriogaeth honno sy’n ddibynnol ar y Goron”;
(b) ar y diwedd mewnosoder—“
(g) ar ôl paragraff (10) mewnosoder—“
(11) Ym mharagraffau (1) a (2), mae i “Gorchymyn Iechyd Planhigion perthnasol” yr un ystyr ag sydd iddo yn Rhan 2 (gweler erthygl 3).”.”
(6) Yn rheoliad 34, yn lle paragraff (b) rhodder—“
(b) ym mharagraff (4) yn lle is-baragraffau (a) a (b) rhodder—“
(a) ystyr “gweithredwr proffesiynol” (“professional operator”) yw unrhyw berson sydd, wrth ei waith o fasnachu, rhedeg busnes neu broffesiwn, yn ymwneud â phlannu, bridio, cynhyrchu, mewnforio, marchnata neu ddosbarthu planhigion;
(aa) ystyr “manylion a bennir” (“specified details”), mewn perthynas â lot, yw ei tharddiad, ei thraddodwr, ei thraddodai, ei chyrchfan, ei rhif cyfresol neu wythnosol unigol neu rif swp unigol pasbort planhigion y DU, ei manylion adnabod a’i nifer;
(b) ystyr “planhigion penodedig Xylella”
(“Xylella specified plants”) yw planhigion a bennir ym mharagraff 13 o Ran E o’r rhestr o ddeunydd a reolir sydd wedi eu tyfu am o leiaf ran o’u bywyd mewn, neu wedi eu symud drwy—
(i) ardal a ddarnodir o dan baragraff 5 o Atodlen 15 i’r Rheoliadau Iechyd Planhigion neu, o ran yr Alban, o dan ddarpariaethau cyfatebol yng Ngorchmynion yr Alban; neu
(ii) tiriogaeth ddibynnol ar y Goron lle y cadarnhawyd bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol;””
(7) Yn rheoliad 42(b)(i), yn lle “y Deyrnas Unedig” rhodder “y Deyrnas Unedig, tiriogaeth ddibynnol ar y Goron,”.
(8) Yn rheoliad 48(a), ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—“
(ia) hepgorer paragraffau (v) a (vi) o is-baragraff (a);”.
(9) Yn rheoliad 51—
(a) ym mharagraff (d)(viii) yn lle “i’r Deyrnas Unedig” rhodder “i’r Deyrnas Unedig neu diriogaeth ddibynnol ar y Goron”;
(b) ym mharagraff (e), yn lle’r geiriau ym mharagraff (i) rhodder “yn lle “yn rhywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “mewn un o diriogaethau eraill y DU neu mewn tiriogaeth ddibynnol ar y Goron””;
(c) ym mharagraff (h), ar ôl testun paragraff 8(a) a fewnosodwyd, mewnosoder—“
(aa) mewn perthynas â deunydd lluosogi planhigion ffrwythau a phlanhigion ffrwythau—
(i) a gynhyrchir yn Lloegr, yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Lloegr) 2017;
(ii) a gynhyrchir yng Nghymru, yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Cymru) 2017;
(c) a gynhyrchir yn yr Alban, yn Rhan 2 o Atodlen 5 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Yr Alban) 2017;
(iv) a gynhyrchir yng Ngogledd Iwerddon, yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Marchnata Planhigion Ffrwythau a Deunyddiau Lluosogi (Gogledd Iwerddon) 2017;”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

26 Mawrth 2019 ar 6pm