
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006, ac ym mhennawd yr Atodlen iddynt, yn lle “deddfwriaeth yr UE”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “deddfwriaeth yr UE a ddargedwir”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn y diffiniad o “gweithrediad a gymeradwywyd” (“approved operation”), ar y diwedd, mewnosoder “(gweler paragraff (3))”;
(ii) yn y diffiniad o “person awdurdodedig” (“authorised person”), hepgorer y geiriau o “, ac mae’n cynnwys” hyd at “person awdurdodedig hwnnw”;
(iii) hepgorer y diffiniad o “y Comisiwn” (“the Commission”);
(iv) hepgorer y diffiniad o “cymorth yr UE” (“EU assistance”);
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Er mwyn osgoi amheuaeth, mae “gweithrediad a gymeradwywyd” yn cynnwys gweithrediad a gymeradwywyd gan Weinidogion Cymru i gael cymorth ariannol o dan reoliad 4 cyn y diwrnod ymadael.”
(3) Yn rheoliad 4(2), yn lle “yr UE” rhodder “ariannol”.
(4) Yn rheoliad 7(2)(d), yn lle “yr UE” rhodder “ariannol”.
(5) Yn rheoliad 10—
(a) hepgorer paragraff (1)(j)(i);
(b) hepgorer paragraff (3).
4 

(1) Mae Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (2)(b), hepgorer “neu’r corff cydgysylltu”;
(b) hepgorer paragraff (3).
(3) Yn lle rheoliad 7(7) rhodder—“
(7) Caiff person awdurdodedig sy’n mynd i mewn ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre yn rhinwedd y rheoliad hwn fynd â pha bynnag bersonau eraill gydag ef a ystyrir gan y person awdurdodedig yn angenrheidiol at unrhyw ddiben a grybwyllir ym mharagraff (1).”
(4) Yn lle rheoliad 8(3) rhodder—“
(3) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â pherson y cyfeirir ato yn rheoliad 7(7) pan fo’r person hwnnw’n gweithredu o dan gyfarwyddyd person awdurdodedig, fel pe bai’r person hwnnw yn berson awdurdodedig.”
5 

(1) Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3—
(a) hepgorer “a (2)”;
(b) yn lle “Erthygl 10(1)(b)” rhodder “Erthygl 10(1)”.
(3) Yn rheoliad 11(1) a (2), ar ôl “Rheoliad Taliadau Uniongyrchol Dirprwyedig” mewnosoder “fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”.
(4) Yn rheoliad 18(1), ar ôl “Rheoliad Taliadau Uniongyrchol” mewnosoder “fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2019