
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” ac mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” gan adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(4) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 21 Mawrth 2019.
2 

(1) Mae Gorchymyn Pysgota Môr (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 1 (enwi, cychwyn a chymhwyso), yn lle paragraff (3) rhodder—“
(3) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru a pharth Cymru.”
(3) Yn erthygl 2 (dehongli), yn y mannau priodol, mewnosoder—“
 mae i “Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;”;“
 mae i “parth Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “the Welsh zone” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Mawrth 2019