
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2019, mae’n gymwys o ran Cymru, a daw i rym ar 8 Chwefror 2019.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal lai ffafriol” (“less favoured area”) yw unrhyw ardal o dir dan anfantais neu dir dan anfantais ddifrifol;
 mae i “hectar cymwys” yr un ystyr ag a roddir i “eligible hectare” yn Erthygl 32(2) o Reoliad 1307/2013;
 ystyr “mapiau dynodedig” (“designated maps”) yw’r ddwy gyfrol o fapiau dyddiedig 20 Mai 1991, sydd wedi eu rhifo 1 a 2, y naill gyfrol a’r llall wedi eu marcio â “Volume of maps of less favoured farming areas in Wales” ac â rhif y gyfrol, ac sydd wedi eu llofnodi gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru a’u hadneuo yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ;
 ystyr “Rheoliad 1307/2013” (“Regulation 1307/2013”) yw Rheoliad (EU) Rhif 1307/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod rheolau ar gyfer taliadau uniongyrchol i ffermwyr o dan gynlluniau cymorth o fewn fframwaith y polisi amaethyddol cyffredin;
 ystyr “tir dan anfantais” (“disadvantaged land”) (ac eithrio yn yr ymadrodd “tir dan anfantais ddifrifol”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n las ar y mapiau dynodedig;
 ystyr “tir dan anfantais ddifrifol” (“severely disadvantaged land”) yw unrhyw ardal o dir sydd wedi ei lliwio’n binc ar y mapiau dynodedig.
2 

(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn cael effaith at y diben o asesu gallu cynhyrchiol uned o dir amaethyddol a leolir yng Nghymru, er mwyn penderfynu a yw’r uned honno yn uned fasnachol o dir amaethyddol o fewn yr ystyr a roddir i “commercial unit of agricultural land” ym mharagraff 3(1) o Atodlen 6 i Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986.
(2) Os gellir defnyddio’r tir o dan sylw, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, i gynhyrchu unrhyw dda byw, cnwd âr fferm, cnwd garddwriaethol yn yr awyr agored neu ffrwythau fel a grybwyllir yn unrhyw un o gofnodion 1 i 3 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2018, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3, fel y’i darllenir ynghyd ag unrhyw nodyn perthnasol i’r Atodlen honno.
(3) Os oedd tir sy’n gallu cynhyrchu incwm blynyddol net, pan gaiff ei ffermio o dan reolaeth gymwys, yn hectar cymwys yn 2017 yn unol â chofnod 4 yng ngholofn 1 o’r Atodlen i’r Gorchymyn hwn, yna—
(a) yr uned gynhyrchu a ragnodir mewn perthynas â’r defnydd hwnnw o’r tir yw’r uned yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2, a
(b) y swm a bennir, ar gyfer y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â 12 Medi 2018, fel yr incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu honno yn y cyfnod hwnnw yw’r swm yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
15 Ionawr 2019
YR ATODLEN
Erthygl 2


Colofn 1Defnydd ffermio Colofn 2Uned gynhyrchu Colofn 3Incwm blynyddol net o’r uned gynhyrchu (£)
1. Da byw
Buchod godro buwch 329
Buchod bridio cig eidion: ar dir mewn ardal lai ffafriol buwch -93
ar dir arall buwch -131
Gwartheg pesgi cig eidion (lled-arddwys) y pen -87
Buchod llaeth i lenwi bylchau y pen 95
Mamogiaid: ar dir mewn ardal lai ffafriol mamog -37
ar dir arall mamog -10
Ŵyn stôr (gan gynnwys ŵyn benyw a werthir fel hesbinod) y pen 4
Moch: hychod a banwesod torrog hwch neu fanwes 303
moch porc y pen 8.70
moch torri y pen 12
moch bacwn y pen 15.10
Dofednod: ieir dodwy aderyn 4.50
brwyliaid aderyn 0.30
cywennod ar ddodwy aderyn 0.80
Tyrcwn Nadolig aderyn 9.30
2. Cnydau âr fferm
Haidd hectar 97
Ffa hectar -95
Rêp had olew hectar 63
Pys sych hectar 30
Tatws: cynnar cyntaf hectar 2,740
prif gnwd (gan gynnwys hadyd) hectar 2,730
Betys siwgr hectar 410
Gwenith hectar 250
3. Cnydau garddwriaethol awyr agored a ffrwythau
Ffrwythau’r berllan hectar 2,410
Ffrwythau meddal hectar 8,320
4. Hectarau cymwys
Tir a oedd, yn 2017, yn hectar cymwys at ddibenion Rheoliad 1307/2013 tir dan anfantais ddifrifol hectar 121.75
tir dan anfantais hectar 63.00
pob tir arall hectar 42.99
