
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.
2 
Yn rheoliad 4 o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (cyfrifo ffioedd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “£14.00” rhodder “£14.30”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “£45.00” rhodder “£46.00”;
(c) ym mharagraff (3), yn lle “£195.00” rhodder “£199.10”;
(d) ym mharagraff (4), yn lle “£195.00” rhodder “£199.10”; ac
(e) ym mharagraff (5), yn lle “£14.00” rhodder “£14.30”.
3 
Mae’r Rheoliadau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2017;
(b) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2018.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2019