
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2019.
RHAN 2
2 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwrteithiau’r CE (Cymru a Lloegr) 2006, yn y diffiniad o “the Community Regulation” ar ôl “fertilisers” mewnosoder “, as last amended by Commission Regulation (EU) 2016/1618”.
3 
Yn rheoliad 17(1)(c) o Reoliadau Semen Buchol (Cymru) 2008, yn lle “erthyglau 3(2)(a) neu 3(2)(b) o Orchymyn Milfeddygaeth (Samplu Gwaed) 1983” rhodder “erthyglau 5(2) a 5(3) o Orchymyn Milfeddygaeth (Esemptiadau) 2015”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 3, ym mharagraff (a)—
(a) hepgorer is-baragraff (iii);
(b) yn lle is-baragraff (iv) rhodder—“
(iv) cymhwyso rheolau ar gynlluniau ansawdd sy’n darparu’r sail ar gyfer adnabod a gwarchod enwau a thermau sy’n dynodi neu’n disgrifio cynhyrchion amaethyddol ac iddynt nodweddion sy’n ychwanegu gwerth a nodir yn Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 21 Tachwedd 2012 ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd,”.
RHAN 3
5 

(1) Mae Gorchymyn Clwy’r Traed a’r Genau (Cymru) 2006 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 3—
(a) yn y diffiniad o “the Directive”, ar y diwedd mewnosoder, “, as last amended by Commission Implementing Decision (EU) 2018/1099”;
(b) yn y diffiniad o “Regulation EC No. 1069/2009”, ar y diwedd mewnosoder “, as last amended by Council Regulation (EU) 1385/2013”;
(c) yn y diffiniad o “Regulation (EU) No. 142/2011”, ar y diwedd mewnosoder “, as last amended by Commission Regulation (EU) 2017/1262”.
(3) Yn erthygl 32, yn lle paragraff (5) rhodder —“
(5) In this article, “border inspection post” means one that has been listed in Commission Decision 2009/821/EC drawing up a list of approved border inspection posts.”.
6 
Yn erthygl 2(2) o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2) 2006, ar ôl “Directive 92/40/EEC” mewnosoder “, as last amended by Council Directive 2008/73/EC”.
7 

(1) Mae Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) ar ôl y diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98” mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004” (“Commission Regulation (EC) No 911/2004”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 sy’n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2017/949.”;
(b) yn y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000” (“Regulation (EC) No 1760/2000”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd gan Reoliad (EU) 2016/429 Senedd Ewrop a’r Cyngor ”.
(3) Yn rheoliad 2(2)(c), hepgorer y geiriau o “(sy’n” hyd at “daliadau)”.
(4) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 3(3)(a) o Ran 1, ar ôl “Cyngor” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) Rhif 1385/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor”.
8 
Yn rheoliad 6(2) o Reoliadau Milheintiau (Monitro) (Cymru) 2007, yn lle “Gorchymyn Heidiau Bridio a Deorfeydd Dofednod (Cymru) 2007” rhodder “Gorchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008”.
9 
Yn Atodlen 5A i Reoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007, ym mharagraff 1 o Ran 1—
(a) yn y diffiniad o “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/1981 dyddiedig 31 Hydref 2017”;
(b) yn y diffiniad o “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”), ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2015/2285 dyddiedig 8 Rhagfyr 2015”.
10 
Yn erthygl 3 o Orchymyn Rheoli Salmonela mewn Dofednod (Cymru) 2008, cyn paragraff (a), mewnosoder —“
(za) Rheoliad (EC) Rhif 2160/2003;”.
11 
Yn erthygl 3 o Orchymyn Rheoli Salmonela mewn Heidiau o Dyrcwn (Cymru) 2010, cyn paragraff (a), mewnosoder —“
(za) Rheoliad (EU) Rhif 1190/2012;”.
12 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “cynnyrch” (“product”), ar ôl “97/78/EC)” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.
(3) Yn rheoliad 9, ar ôl “2007/275/EC”, mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.
(4) Yn rheoliad 10(a) ar ôl “gwledydd” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 494/2014”.
(5) Yn rheoliad 11(4) ar ôl “trefnu” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.
(6) Yn rheoliad 12(4), ar ôl “2007/275/EC” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/1196”.
(7) Yn rheoliad 15(1)(a), ar ôl “trefnu” mewnosoder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/20/EU”.
(8) Yn rheoliad 20 ar ôl is-baragraff (3) mewnosoder—“
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009” (“Regulation(EC) No 1069/2009”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1069/2009 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi rheolau ar iechyd o ran sgil-gynhyrchion anifeiliaid a sgil-gynhyrchion sy’n deillio ohonynt, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EU) Rhif 1385/2013”;
(9) Yn rheoliad 28 yn lle’r geiriau o “mewn parth rhydd” hyd at y diwedd rhodder—“
 gan dorri’r darpariaethau a ganlyn yn Rheoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb—
(a) [Teitl 5, Pennod 3, yn adran 2,] ynghylch parthau rhydd, a
(b) Theitl 7, Pennod 3, yn adran 2, ynghylch warysau”.
(10) Yn rheoliad 32(4) yn lle’r geiriau “Erthyglau 37” hyd at y diwedd rhodder “Erthyglau 135 i 137 o Reoliad (EU) Rhif 952/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n nodi Cod Tollau’r Undeb”.
(11) Yn rheoliad 35(2), yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2016/1012.”
(12) Yn Atodlen 2—
(a) yn Rhan 1, ar ôl paragraff 7 mewnosoder —“
8. 
Yn y Rhan hon—
 “ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC” (“Council Directive 64/432/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid yn effeithio ar y fasnach o fewn y Gymuned mewn anifeiliaid buchol a moch, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2015/819;
 ystyr “Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC” (“Council Directive 91/68/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 91/68/EEC ar anhwylderau iechyd anifeiliaid sy’n llywodraethu’r fasnach o fewn y gymuned mewn anifeiliaid o deulu’r ddafad ac o deulu’r afr, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2016/2002.;”;
(b) yn Rhan 2, yn lle paragraff 10, rhodder “Pan fo ceffyl yn cael ei fewnforio dros dro o drydedd wlad, mae’r darpariaethau yn Adran 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) 2018/659 yn gymwys.”.
13 
Yn rheoliad 20(1)(a) o Reoliadau Clefyd Affricanaidd y Ceffylau (Cymru) 2013, yn lle “y tu allan i Gymru,” mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2008//72/EC, y tu allan i Gymru”.
14 
Yn Atodlen 1 i Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Gorfodi) (Cymru) 2014, yng nghofnod 17 o’r tabl, yn y drydedd golofn, hepgorer “a 36(1)”.
RHAN 4
15 

(1) Mae Rheoliadau Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Gofynion a Safonau Maeth) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) yn y diffiniad o “Rheoliadau Undeb Ewropeaidd perthnasol” (“relevant European Union Regulations”)—
(a) ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 1333/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”;
(b) ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EC) Rhif 1334/2008” mewnosoder “fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd”.
RHAN 5
16 

(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Asesiad Risg) (Cofnodion ac Esemptiadau) 1996 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(3)—
(a) ar ôl y diffiniad o “the Act” hepgorer “and”;
(b) yn y diffiniad o “the Contained Use Regulations”, yn lle “the Genetically Modified Organisms (Contained Use) Regulations 2000” rhodder “the Genetically Modified Organisms (Contained Use) Regulations 2014”.
(3) Yn rheoliad 3(2)—
(a) yn is-baragraff (b)(ii) yn lle “regulation 3(2)” rhodder “regulation 3(1)”;
(b) yn is-baragraff (d) yn lle “the Genetically Modified Organisms (Deliberate Release) Regulations 1992” rhodder “the Genetically Modified Organisms (Deliberate Release) (Wales) Regulations 2002”.
17 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002, yn y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yn lle’r geiriau o “fel y’i diwygiwyd” hyd at y diwedd rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb (EU) 2015/412 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran y posibilrwydd i’r Aelod-wladwriaethau gyfyngu neu wahardd tyfu organeddau a addaswyd yn enetig yn eu tiriogaeth”.
18 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Holrhain a’u Labelu) (Cymru) 2005, yn y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“Council Regulation”) ar y diwedd mewnosoder “, fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1137/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n addasu nifer o offerynnau sy’n dod o dan y weithdrefn a nodir yn Erthygl 251 o’r Cytuniad i Benderfyniad y Cyngor 1999/468/EC, o ran y weithdrefn reoleiddio â gwaith craffu”.
19 
Ym mharagraff 7 o Atodlen 2 i Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009, ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(ba) sylweddau peryglus fel y’u diffinnir yn Erthygl 3 o Reoliad (EC) Rhif 1272/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddosbarthu, labelu a phacio sylweddau a chymysgeddau;”.
20 
Yn rheoliad 14 o Reoliadau Safonau Ansawdd Aer (Cymru) 2010—
(a) yn is-baragraff (5)(b) yn lle “Chyfarwyddeb 2008/1/EC” rhodder “Chyfarwyddeb 2010/75/EU”;
(b) yn is-baragraff (7) yn lle’r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2008/1/EC” (“Directive 2008/1/EC”) rhodder “ystyr “Cyfarwyddeb 2010/75/EU” (“Directive 2010/75/EU”) yw Cyfarwyddeb 2010/75/EU Senedd Ewrop a’r Cyngor ar allyriadau diwydiannol i’r graddau y mae wedi ei throsi i’r gyfraith sy’n gymwys yng Nghymru”.
RHAN 6
21 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007, yn y diffiniad o “mewnforyn trydedd wlad” (“third country import”), yn lle’r geiriau o “y mae Rhan” hyd at “ag ef” rhodder “y mae tâl yn daladwy mewn cysylltiad ag ef o dan Reoliad 882/2004”.
22 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) a Llaeth a Chynhyrchion Llaeth (Diogelu Dynodiadau) (Cymru) 2008, yn y diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”), yn lle’r geiriau o “Rheoliad” hyd at “1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol”.
23 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Llaeth Yfed (Cymru) 2010, yn y diffiniad o “Rhan IV” (“Part IV”) yn lle’r geiriau o “Rhan IV o” hyd at “1234/2007” rhodder “Rhan 4 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol”.
24 

(1) Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1)—
(a) yn y diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”), yn lle’r geiriau o “Rheoliad Senedd” hyd at “1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol”;
(b) ar ôl y diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” hepgorer “and”;
(c) ym mharagraff (6)(a) hepgorer “Rheoliad Sengl CMO neu”.
(3) Yn Atodlen 2—
(a) yn Rhan 1, yng ngholofn gyntaf y tabl, yn y ddau gofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 75(2) a (3), hepgorer “o Reoliad (EU) 2013”;
(b) yn Rhan 2, yn ail golofn y tabl, yn lle’r cofnod sy’n ymwneud a’r is-baragraff cyntaf a’r ail is-baragraff yn Erthygl 12(2), yn lle’r geiriau o “Erthygl 2” hyd at “bwydydd” rhodder “Erthygl 23(1) o Reoliad (EU) 834/2007 ar gynhyrchu organig a labelu cynhyrchion organig”.
25 
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, yn y diffiniad o “Rheoliad (EU) 2013” (“Regulation (EU) 2013”) yn lle’r geiriau o “Rheoliad (EU) 2013” hyd at “1234/2007” rhodder “Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu trefniadaeth gyffredin ar gyfer marchnadoedd cynhyrchion amaethyddol”.
RHAN 7
26 

(1) Mae Rheoliadau Marchnata Deunyddiau Lluosogi Planhigion Addurnol 1999 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(4) yn lle “regulation 15 of the Plant Health (Great Britain) Order 1993” rhodder “article 25 of the Plant Health (Wales) Order 2018”.
(3) Yn rheoliad 8(3)—
(a) yn lle’r geiriau o “plant pest” hyd at “1993” rhodder “notifiable plant pest as defined in article 42(3) of the Plant Health (Wales) Order 2018”;
(b) yn lle “article 20” rhodder “article 42”.
(4) Yn rheoliad 12(3) yn lle’r geiriau o “article 12(5)” hyd at y diwedd rhodder “article 9(1) of the Plant Health (Wales) Order 2018”.
27 
Yn Rhan A of Atodlen 9 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2018, ym mharagraff 8, yn lle is-baragraff 9(b) rhodder—“
(b) Erthygl 5(2) Gyfarwyddeb Weithredu’r Comisiwn 2014/96/EU ar y gofynion ar gyfer labelu, selio a phecynnu deunydd lluosogi ffrwythau a phlanhigion ffrwythau a fwriedir ar gyfer cynhyrchu ffrwythau sydd o fewn cwmpas Cyfarwyddeb y Cyngor 2008/90/EC;”.
RHAN 8
28 
Yn erthygl 2(1) o Orchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003, yn y diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yn lle “fel y’i cywirwyd gan y Corigendwm i Atodiad XII i Reoliad y Cyngor ac fel y’i diwygiwyd gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 308/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1459/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2723/1999, Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 812/2000 a Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1298/2000;” rhodder “fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EU) 2015/812 Senedd Ewrop a’r Cyngor;”.
RHAN 9
29 

(1) Mae Rheoliadau Cyflenwadau Dŵr Preifat (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6(4)(c), ar ôl “Erthygl 7(1)” mewnosoder “ac Erthygl 8”.
(3) Yn Atodlen 4, yn Rhan 3, yn lle paragraff 13(a) rhodder—“
(a) y crynodiadau radioniwclid a fesurwyd a’r cyfernodau dos y cyfeirir atynt fel “standard values and relationships” yn Erthygl 13, ac a argymhellir ar gyfer amcangyfrif dosau yn sgil cysylltiad mewnol yn y diffiniad o “standard values and relationships” yn Erthygl 4(96), o Gyfarwyddeb y Cyngor 2013/59/Euratom sy’n nodi safonau diogelwch sylfaenol ar gyfer diogelu rhag y peryglon sy’n codi o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio; neu”.
30 

(1) Mae Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ansawdd Dŵr) 2018 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 8(1), yn lle “items 1 to 11” rhodder “items 1 to 12”.
(3) Yn Nhabl 3 yn Rhan 1 o Atodlen 3—
(a) ym mhennawd y tabl, yn lle “supply points” rhodder “in water supply zones (or supply points)”;
(b) yn eitem 5, yn lle’r cofnod yng ngholofn 2 rhodder—“Colstridium perfringens (including spores)(1)”;
(c) yn eitem 11, yn lle’r cofnod yng ngholofn 2 rhodder—“Indicative dose(1)”;
(d) yn eitem 17, yn lle’r cofnod yng ngholofn 2 rhodder—“Tetrachloroethene/Trichloroethene(1)”;
(e) hepgorer y rhes sy’n ymwneud ag eitem 20.
RHAN 10
31 
Mae’r canlynol wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Sefydliadau Cynhyrchwyr Pysgod (Grantiau Llunio) 1999;
(b) Rheoliadau Cymorthdaliadau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2001;
(c) Rheoliadau Strwythurau Pysgodfeydd a Dyframaethu (Grantiau) (Cymru) 2002;
(d) Rheoliadau Cynllun Taliad Sylfaenol y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Dosbarthiad Rhanbarthau Talu Dros Dro) (Cymru) 2014.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2019