
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
2 

(1) Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (pŵer i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol), ym mharagraff (11)—
(a) yn lle’r diffiniad o “banc” rhodder—“
 ystyr “banc” (“bank”) yw—
(a) person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i dderbyn adneuon; neu
(b) person nad oes arno angen caniatâd o dan y Ddeddf honno i dderbyn adneuon, yng nghwrs busnes y person hwnnw yn y Deyrnas Unedig;”;
(b) yn lle’r diffiniad o “yswiriwr” rhodder—“
 ystyr “yswiriwr” (“insurer”) yw person sydd â chaniatâd o dan Ran 4A o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i effeithio neu gyflawni contractau yswiriant.”
3 

(1) Mae Rheoliadau Rhestr Ardrethu Canolog (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7 (hereditamentau rheilffyrdd), ym mharagraff (3), yn lle’r diffiniad o “licence exempt operator” a “licence holder” rhodder—“
 “licence exempt operator” and “licence holder” have the meanings given by sections 10(6) and 83(1) respectively of the Railways Act 1993 except that licence holder also includes a holder of a railway undertaking licence granted pursuant to the Railway (Licensing of Railway Undertakings) Regulations 2005; and”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
4th Mawrth 2019