
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hylendid a Diogelwch Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
2 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder—“
 “third country” means a country or state other than the United Kingdom.”
(3) Yn rheoliad 6A—
(a) ym mharagraff (a), yn lle “country that is not a member State” rhodder “third country”;
(b) hepgorer paragraff (b) a’r “or” yn union o flaen hynny.
3 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6, hepgorer “ac i Aelod-wladwriaethau eraill”.
(3) Yn Rhan 3, yn y pennawd, yn lle “rheolaethau’r Gymuned” rhodder “rheolaethau”.
(4) Yn rheoliad 10—
(a) yn y pennawd, yn lle “Rheolaethau’r Gymuned” rhodder “Arbenigwyr sy’n ymwneud â rheolaethau”;
(b) yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “ei gwneud yn hwylus i archwiliadau gael eu cynnal gan arbenigwyr y
Comisiwn yn unol ag Erthygl 45” rhodder “hwyluso archwiliadau”.
(5) Hepgorer rheoliad 12.
(6) Yn rheoliad 13, hepgorer paragraff (1).
(7) Yn rheoliad 14(1)—
(a) yn is-baragraff (b), yn y testun Cymraeg, yn lle “rheoliadau 10 neu 12” rhodder “rheoliad 10”;
(b) yn is-baragraff (d), yn y testun Saesneg, yn lle “regulations 10 or 12” rhodder “regulation 10”.
(8) Yn rheoliad 17(1)(c), yn lle “, 10, neu 12” rhodder “neu 10”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi’u Rhewi’n Gyflym (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 89/108”;
(b) ym mharagraff (2), yn lle “yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “yng Nghyfarwyddeb 92/2”.
(3) Yn rheoliad 5—
(a) ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “neu unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108” rhodder “neu’r hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”;
(b) ym mharagraff (3), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108” rhodder “yr hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”;
(c) ym mharagraff (4), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108” rhodder “yr hyn sy’n cyfateb i hynny mewn unrhyw iaith arall”.
5 
Yn y Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009, yn lle’r pennawd i Atodlen 1 rhodder “Diffiniadau o gyfraith yr UE a ddargedwir”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn y diffiniad o “y Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol”, hepgorer yr “ac” terfynol;
(b) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad neu wladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig.”
(3) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “, awdurdodau OFFC eraill ac Aelod-wladwriaethau” rhodder “ac awdurdodau OFFC eraill”;
(b) ym mharagraff (4), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir”.
(4) Yn rheoliad 5(1), hepgorer “ac Aelod-wladwriaethau”.
(5) Yn rheoliad 10(2), hepgorer “ond nid yw’n cynnwys y Comisiwn Ewropeaidd”.
(6) Hepgorer rheoliadau 14, 15 ac 16.
(7) Yn rheoliad 17—
(a) hepgorer paragraff (3);
(b) ym mharagraff (5), hepgorer is-baragraffau (a) a (b).
(8) Yn rheoliad 19(1)—
(a) yn y ddau le y mae’n digwydd, hepgorer “14, 15 neu”;
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “rheoliadau hynny” rhodder “rheoliad hwnnw”.
(9) Yn rheoliad 20(2), yn lle “, neu reoliad 11 neu reoliad 16” rhodder “neu reoliad 11”.
(10) Yn rheoliad 22, hepgorer y diffiniad o “y tiriogaethau perthnasol” a’r “ac” yn union o flaen hynny.
(11) Yn rheoliad 28(1), hepgorer is-baragraffau (b) ac (ch).
(12) Hepgorer rheoliad 44.
7 

(1) Mae Rheoliadau Llestri Cegin Plastig (Amodau ar Fewnforion o Tsieina) (Cymru) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.
(3) Yn rheoliad 8(3)(a)(i), yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”.
(4) Hepgorer rheoliad 12(2).
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Mawrth 2019