
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a’u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw Rhannau 1 a 2 o’r Rheoliadau hyn i rym 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y gosodir y Rheoliadau hyn.
(3) Daw Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2
2 

(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16, hepgorer paragraff (dd).
(3) Hepgorer rheoliadau 18 a 18A.
(4) Yn Atodlen 3, paragraff 1, yn lle’r geiriau “ac unrhyw ddull adnabod, enw neu god penodol” rhodder “y marc adnabod unigryw a bennir yn unol â Rheoliad 65/2004, ac unrhyw enw neu god arall”.
RHAN 3
3 

(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol) (Cymru) 2002 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) yn lle’r diffiniad o “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) rhodder—“
 ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo” (“approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd iddo gael ei farchnata yng Nghymru drwy—
(a) caniatâd a roddwyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 111(1) o’r Ddeddf, neu
(b) awdurdodiad o dan y Rheoliad Bwyd a Bwyd Anifeiliaid;”;
(b) hepgorer y diffiniad “y Comisiwn” (“the Commission”);
(c) hepgorer y diffiniad o “y Gyfarwyddeb Defnydd Amgaeëdig” (“the Contained Use Directive”);
(d) yn lle’r diffiniad o “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) rhodder—“
 ystyr “y Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol” (“the Deliberate Release Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/18/EC ar ollwng yn fwriadol i’r amgylchedd organeddau a addaswyd yn enetig fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael;”;
(e) yn y diffiniad o “Penderfyniad Cyntaf y Weithdrefn wedi’i Symleiddio (planhigion cnwd)” (“the First Simplified Procedure (crop plants) Decision”), mewnosoder ar y diwedd “fel y mae’n gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael”;
(f) yn y man priodol mewnosoder—“
 ystyr “cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael” (“pre-exit approved product”) yw cynnyrch y caniatawyd, yn union cyn y diwrnod ymadael, iddo gael ei farchnata drwy ganiatâd a roddwyd yn unol ag Erthygl 15(3), 17(6) neu 18(2) o’r Gyfarwyddeb Gollyngiadau Bwriadol neu Erthygl 13(2) neu (4) o Gyfarwyddeb 1990;”.
(3) Yn rheoliad 10, hepgorer y geiriau o “gollwng yn unol” hyd at “neu lle mae”.
(4) Yn rheoliad 12(1)(ch)—
(a) hepgorer y geiriau o “ar y ffurf” hyd at “Bwriadol”;
(b) ar y diwedd, mewnosoder “, ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Cyngor 2002/813/EC”.
(5) Yn rheoliad 16—
(a) mae’r testun presennol yn dod yn baragraff (1);
(b) yn y paragraff (1) newydd, ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) lle mae cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael yn cael ei farchnata yn ystod y cyfnod perthnasol at ddefnydd y mae wedi’i gymeradwyo ar ei gyfer cyn y diwrnod ymadael ac yn unol â’r cyfyngiadau a’r amodau yr oedd defnydd o’r cynnyrch hwnnw yn ddarostyngedig iddynt cyn y diwrnod ymadael;”;
(c) yn lle is-baragraffau (b) a (c), rhodder—“
(b) lle mae organeddau a addaswyd yn enetig wedi’u rhoi ar gael ar gyfer gweithgareddau a reoleiddir o dan Reoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Defnydd Amgaeëdig) 2014;”;
(d) yn is-baragraff (ch) ar y diwedd mewnosoder “neu”;
(e) yn lle is-baragraff (d), rhodder—“
(d) lle mae organedd a addaswyd yn enetig a gynhwysir mewn cynnyrch meddygol a awdurdodir o dan Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012 neu Reoliadau Meddyginiaethau Milfeddygol 2013 yn cael ei farchnata.”;
(f) hepgorer is-baragraff (e);
(g) ar ôl y paragraff (1) newydd mewnosoder—“
(2) At ddibenion paragraff (1)(aa), ystyr “y cyfnod perthnasol” mewn perthynas â chynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael, yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r caniatâd o dan sylw yn peidio â bod yn ddilys.”
(6) Yn rheoliad 17(2)—
(a) yn is-baragraff (b)—
(i) yn lle “Undeb Ewropeaidd” rhodder “Deyrnas Unedig”;
(ii) hepgorer y geiriau o “neu i awdurdod cymwys arall” hyd at y diwedd;
(b) yn is-baragraff (e), ar ôl “Bwriadol” mewnosoder “, fel y’i darllenir gyda’r nodiadau cyfarwyddyd a nodir ym Mhenderfyniad y Comisiwn 2002/811/EC,”;
(c) yn is-baragraff (g) yn lle’r geiriau o “a sefydlwyd gan y Comisiwn” hyd at y diwedd, rhodder “a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2002/812/EC”.
(7) Yn rheoliad 21—
(a) hepgorer is-baragraff (c);
(b) yn is-baragraff (dd) hepgorer y geiriau o “ac unrhyw sylwadau a wnaed” hyd at y diwedd.
(8) Yn rheoliad 22—
(a) ym mharagraff (3) hepgorer “a sicrhau bod ei benderfyniad yn cael ei gyfathrebu i’r Comisiwn”;
(b) yn lle paragraff (6) rhodder—“
(6) Rhaid i’r wybodaeth a gyflwynir yn unol â pharagraff (5) gael ei darparu ar y ffurf a nodir yn yr Atodiad i Benderfyniad y Comisiwn 2003/701/EC.”.
(9) Yn rheoliad 24—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) gwahodd unrhyw berson, drwy gyfrwng cais a osodir ar y gofrestr, i gyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw risgiau o beri niwed i’r amgylchedd drwy’r marchnata, cyn diwedd cyfnod sydd i’w bennu nad yw’n llai na 60 diwrnod o’r dyddiad y daeth y cais i law Gweinidogion Cymru;”;
(ii) yn lle is-baragraff (d), rhodder—“
(d) ystyried unrhyw sylwadau sy’n ymwneud â’r risgiau o beri niwed i’r amgylchedd drwy’r marchnata, a wnaed i Weinidogion Cymru cyn diwedd y cyfnod a bennir yn unol â pharagraff (b);”;
(b) hepgorer paragraff (2);
(c) ym mharagraff (3), yn lle “mharagraffau (1) a (2)” rhodder “mharagraff (1)”;
(d) hepgorer paragraff (4).
(10) Yn rheoliad 25—
(a) yn lle paragraffau (1) i (4) rhodder—“
(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(1) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig, neu ei wrthod, cyn diwedd y cyfnod a bennir ar gyfer sylwadau yn unol â rheoliad 24(1)(b) a (d) uchod ac, os ceir unrhyw sylwadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 24(1)(d) o fewn y cyfnod hwnnw, cyn bod Gweinidogion Cymru wedi ystyried y sylwadau hynny.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais am ganiatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn diwedd cyfnod o 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y daeth y cais i law a rhaid iddynt gynnwys, pan roddir gwybod am unrhyw wrthodiad i roi caniatâd, y rheswm dros y gwrthodiad hwnnw.
(4) Nid yw’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (3) yn cynnwys—
(a) unrhyw gyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan adran 111(6) o’r Ddeddf bod rhagor o wybodaeth yn ofynnol mewn cysylltiad â’r cais, ac sy’n dod i ben ar y diwrnod y mae’r wybodaeth honno yn dod i law Gweinidogion Cymru, neu
(b) unrhyw gyfnod pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried sylwadau a gyflwynwyd gan unrhyw bersonau yn unol â rheoliad 24(1)(b), ar yr amod nad yw ystyriaeth o’r fath yn estyn y cyfnod o 90 o ddiwrnodau y cyfeirir ato ym mharagraff (3) am fwy na 30 o ddiwrnodau.”;
(b) ym mharagraff (5)—
(i) hepgorer “o dan ddarpariaethau perthnasol yr UE”;
(ii) yn lle’r geiriau o “gatalog cenedlaethol swyddogol” hyd at y diwedd, rhodder “Restr Genedlaethol yn unol â rheoliad (3) o Reoliadau Hadau (Rhestrau Cenedlaethol o Amrywogaethau) 2001”;
(c) ym mharagraff (6), yn lle’r geiriau o “gofrestr genedlaethol swyddogol” hyd at y diwedd rhodder “y Gofrestr Genedlaethol yn unol â rheoliadau 6 a 7 o Reoliadau Deunyddiau Atgenhedlol y Goedwig (Prydain Fawr) 2002”.
(11) Yn rheoliad 26 hepgorer paragraffau (1)(ch) a (2).
(12) Yn rheoliad 27—
(a) yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru gytuno ar gais i adnewyddu caniatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.”;
(b) yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i’r ceisydd am benderfyniad ar gais i adnewyddu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig cyn gynted â phosibl a rhaid iddynt gynnwys, mewn unrhyw wrthodiad i roi caniatâd, y rheswm dros y penderfyniad hwnnw.”.
(13) Yn rheoliad 29(dd) yn lle’r geiriau o “i’r Comisiwn” hyd at “Aelod-wladwriaethau” rhodder “ar y ffurf berthnasol a nodir yn yr Atodiadau i Benderfyniad y Comisiwn 2009/770/EC”.
(14) Yn lle rheoliad 32 rhodder—“
32 

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond amrywio neu ddirymu caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf onid ydynt wedi cael cytundeb deiliad y caniatâd pan fo gwybodaeth newydd wedi dod ar gael y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y byddai’n effeithio ar yr asesiad o’r risg o beri niwed i’r amgylchedd drwy ollwng yr organeddau.
(2) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddirymu neu amrywio caniatâd i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig o dan adran 111(10) o’r Ddeddf fel y mae’n ymwneud â diogelu iechyd dynol heb gytundeb yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.”.
(15) Yn rheoliad 33—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “cynnyrch a gymeradwywyd” rhodder “marchnata cynnyrch wedi’i gymeradwyo cyn y diwrnod ymadael”;
(b) hepgorer paragraffau (3) i (5).
(16) Yn rheoliad 35—
(a) ym mharagraff (3)—
(i) yn is-baragraff (f), ar ôl “ollwng” mewnosoder “, neu farchnata,”;
(ii) ar ôl is-baragraff (f) mewnosoder—“
(ff) y crynodeb o’r wybodaeth a gynhwyswyd yn y cais sy’n ofynnol gan reoliad 12(1)(ch) neu, yn ôl y digwydd, o’r cais sy’n ofynnol gan reoliad 17(2)(g).”;
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(3A) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) ac i’r ffaith nad yw’r wybodaeth o dan sylw yn gyfrinachol, mewn perthynas â chais am ganiatâd o dan adran 111(1) o’r Ddeddf i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig—
(a) enw a chyfeiriad y person sy’n gyfrifol am y marchnata, boed y gweithgynhyrchydd, y mewnforiwr neu’r dosbarthwr;
(b) enw masnachol arfaethedig y cynnyrch;
(c) enwau’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch, gan gynnwys enwau gwyddonol a chyffredin, pan fo hynny’n briodol, yr organeddau rhieniol, yr organeddau derbyn a’r organeddau rhoi;
(ch) marciau adnabod unigryw yr organeddau a addaswyd yn enetig sydd yn y cynnyrch;
(d) cod cyfeirnod ar gyfer y cais a neilltuwyd gan Weinidogion Cymru;
(dd) yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais fel a bennir ym mharagraffau 3 a 7 o Atodlen 3;
(e) gwybodaeth am samplau o’r organeddau a addaswyd yn enetig sydd wedi eu storio, gan gynnwys y math o ddeunydd, ei nodweddion genetig a’i sefydlogrwydd, swm y deunydd mewn storfa a’r amodau storio priodol a’r oed silff.”;
(c) ym mharagraff (7), ar ôl “roddwyd” mewnosoder “cyn y diwrnod ymadael”;
(d) ym mharagraff (9) yn lle “gan y Comisiwn” rhodder “cyn y diwrnod ymadael gan y Comisiwn Ewropeaidd”.
(17) Yn rheoliad 36 hepgorer paragraffau (8) a (10).
(18) Yn Atodlen 3—
(a) ym mharagraff (2) hepgorer “yn yr Undeb Ewropeaidd”;
(b) ym mharagraff 5, hepgorer “o fewn yr Undeb Ewropeaidd”;
(c) ym mharagraff 7, yn y frawddeg gyntaf hepgorer y geiriau o “at ddibenion” hyd at “addasiadau mewn organeddau,”;
(d) ym mharagraff 8, hepgorer “sydd wedi’i sefydlu yn yr Undeb Ewropeaidd”;
(e) ym mharagraff 14, yn lle “yn yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “yng Nghymru”.
(19) Yn Atodlen 4 ym mharagraff 6, hepgorer y geiriau o “, ac a fwriedir gofyn” hyd at y diwedd.
4 

(1) Mae Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Symud ar draws Ffin) (Cymru) 2005 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn yr Atodlen—
(a) yn Rhan 1, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 10(3)”, yn lle’r geiriau o “heb fod cytundeb” hyd at y diwedd rhodder “na chaniateir eu marchnata yn y Deyrnas Unedig, neu heb i awdurdod cymwys y wlad sy’n mewnforio gytuno’n benodol i awdurdodi’r mewnforio.”;
(b) yn Rhan 2, yn nhestun yr ail golofn yn rhes “Erthygl 6”, yn yr ail is-baragraff, hepgorer “ac i’r Comisiwn”.
Lesley Griffiths
Gweinidog dros yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
26 Chwefror 2019