
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Newid Ardaloedd) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Gorchymyn Sefydlu” yw Gorchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009.
3 

(1) Mae prif ardal llywodraeth leol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei throsglwyddo o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ac mae’n rhan o ardal Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf.
(2) Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf wedi ei ailenwi, ac mae i’w alw, yn Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
(3) Mae Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg wedi ei ailenwi, ac mae i’w alw, yn Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe.
(4) Yn unol â hynny, yn lle Atodlen 1 i’r Gorchymyn Sefydlu rhodder yr Atodlen 1 newydd a nodir yn yr Atodlen i’r Gorchymyn hwn.
(5) Yn yr erthygl hon, ystyr “prif ardal llywodraeth leol” yw’r brif ardal llywodraeth leol at ddibenion Deddf Llywodraeth Leol 1972.
4 

(1) Yn Atodlen 4 i Reoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009 (y prifysgolion a gaiff enwebu aelod i fwrdd iechyd lleol), mae’r tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 2—
(a) yn rhes 2, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”;
(b) yn rhes 4, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”.
5 
Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (Cymru) 2009, yn y diffiniad o “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol”, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
6 

(1) Yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynghorau Iechyd Cymuned (Sefydlu, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu) (Cymru) 2010 (enwau cynghorau iechyd cymuned ac ardaloedd byrddau iechyd lleol y sefydlir hwy ar eu cyfer), mae’r tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 1 (enwau cynghorau iechyd cymuned)—
(a) yn rhes 2, yn lle “Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe”;
(b) yn rhes 5, yn lle “Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf” rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg”.
(3) Yng ngholofn 2 (ardaloedd byrddau iechyd lleol y sefydlir y cyngor iechyd cymuned ar eu cyfer)—
(a) yn rhes 2, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”;
(b) yn rhes 5, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”.
7 

(1) Mae Rheoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl yn Atodlen 1 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi yn aelodau o Gyngor gan y cyrff sy’n penodi)—
(a) yng ngholofn 1 (enw’r cyngor iechyd cymuned)—
(i) yn rhes 2, yn lle “Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Bae Abertawe”;
(ii) yn rhes 5, yn lle “Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf” rhodder “Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg”;
(b) yng ngholofn 2 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi gan awdurdodau lleol perthnasol)—
(i) yn rhes 2, yn lle “9” rhodder “6”;
(ii) yn rhes 5, yn lle “6” rhodder “9”;
(c) yng ngholofn 3 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi gan sefydliadau gwirfoddol)—
(i) yn rhes 2, yn lle “9” rhodder “6”;
(ii) yn rhes 5, yn lle “6” rhodder “9”;
(d) yng ngholofn 4 (cyfanswm yr aelodau sydd i’w penodi gan Weinidogion Cymru)—
(i) yn rhes 2, yn lle “18” rhodder “12”;
(ii) yn rhes 5, yn lle “12” rhodder “18”.
(3) Yn y tabl yn Atodlen 2 (cynghorau iechyd cymuned ac ardaloedd awdurdod lleol neu rannau ohonynt y gwneir penodiadau arnynt ac y sefydlir pwyllgorau lleol iddynt), yng ngholofn 2 (ardaloedd awdurdod lleol)—
(a) yn rhes 2—
(i) hepgorer “i. Pen-y-bont ar Ogwr”, a
(ii) ailrifer gweddill y cofnodion “i. Castell-nedd Port Talbot” a “ii. Abertawe”;
(b) yn rhes 5, ar ôl “ii. Rhondda Cynon Taf” mewnosoder “iii. Pen-y-bont ar Ogwr”.
8 

(1) Yn Atodlen 2 i Reoliadau Iechyd Meddwl (Darpariaeth Ranbarthol) (Cymru) 2012 (y ddarpariaeth ranbarthol a’r partneriaid iechyd meddwl lleol), mae’r tabl wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yng ngholofn 1 (ardaloedd yr awdurdodau lleol (neu’r rhannau ohonynt) a gymhwysir fel rhanbarthau)—
(a) yn rhes 3, hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;
(b) yn rhes 5, ar ôl “Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful” mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”.
(3) Yng ngholofn 2 (y partneriaid iechyd meddwl lleol)—
(a) yn rhes 3—
(i) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe”, a
(ii) hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;
(b) yn rhes 5—
(i) ar ôl “Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful” mewnosoder “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”, a
(ii) yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg”.
9 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau’r Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys (Cymru) 2014 (dehongli), yn y diffiniad o “Bwrdd Iechyd Lleol cynhaliol”, yn lle “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf” rhodder “Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
10 

(1) Mae Rheoliadau Byrddau Diogelu (Cyffredinol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl yn Atodlen 1 (ardaloedd byrddau diogelu)—
(a) yng ngholofn 1 (enw’r ardal bwrdd diogelu)—
(i) yn rhes 2, yn lle “Cwm Taf” rhodder “Cwm Taf Morgannwg”;
(ii) yn rhes 6, yn lle “Bae’r Gorllewin” rhodder “Gorllewin Morgannwg”;
(b) yng ngholofn 2 (rhychwant yr ardal bwrdd diogelu)—
(i) yn rhes 2, ar ôl “Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful” mewnosoder “, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr”;
(ii) yn rhes 6, hepgorer “Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,”.
(3) Yn y tabl yn Atodlen 2 (partneriaid arweiniol), yng ngholofn 1 (ardal bwrdd diogelu)—
(a) yn rhes 2, yn lle “Cwm Taf” rhodder “Cwm Taf Morgannwg”;
(b) yn rhes 6, yn lle “Bae’r Gorllewin” rhodder “Gorllewin Morgannwg”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
22 Chwefror 2019
YR ATODLEN
Erthygl 3(4)
“
ATODLEN 1
Erthyglau 3 a 4


Colofn 1Enwau Byrddau Iechyd Lleol a sefydlir o dan erthygl 3 Colofn 2Prif ardaloedd llywodraeth leol y sefydlir y Bwrdd Iechyd Lleol ar eu cyfer
1 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd, Sir Fynwy a Thor-faen
2 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf
3 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a’r Fro Caerdydd a Bro Morgannwg
4 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
5 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Hywel Dda Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
6 Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn”