
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2017” yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017.
2 

(1) Mae Rheoliadau 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 65—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “(2) i (8)” rhodder “(2), (7) ac (8)”;
(b) yn lle paragraffau (2) i (6) rhodder—“
(2) Mae Rheoliadau 2016 yn parhau i gael effaith pan fo, cyn 16 Mai 2017—
(a) y ceisydd neu’r apelydd wedi cyflwyno datganiad amgylcheddol neu wedi gofyn am farn gwmpasu mewn cysylltiad â’r datblygiad; neu
(b) mewn cysylltiad â—
(i) gorchmynion datblygu lleol;
(ii) gorchmynion adran 97;
(iii) gorchmynion adran 102; neu
(iv) cam gweithredu o dan adran 141 o Ddeddf 1990,
yr awdurdod cynllunio lleol, y corff cychwyn neu’r ceisydd wedi llunio datganiad amgylcheddol neu farn gwmpasu neu wedi gofyn am gyfarwyddyd cwmpasu mewn cysylltiad â’r gorchymyn neu’r cam gweithredu hwnnw.”;
(c) ym mharagraff (9), yn lle “(2) i (8)” rhodder “(2), (7) ac (8)”.
(3) Ym mharagraff 1 o Atodlen 2, yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “llinell drydan” yr ystyr a roddir i “electric line” yn adran 64(1) o Ddeddf Trydan 1989.”
(4) Yn y tabl ym mharagraff 2 o Atodlen 2, ar ddiwedd pwnc 3 (Diwydiant ynni) mewnosoder—“
(k) Trosglwyddo ynni trydanol drwy geblau uwchben. Datblygiad i ddarparu llinell drydan a osodir uwchben y ddaear sydd â foltedd enwol o 132 o gilofoltiau.”
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Chwefror 2019