
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ffioedd) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2019.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cais” (“application”) yw cais i Weinidogion Cymru o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989 am gydsyniad i adeiladu, estyn neu weithredu gorsaf gynhyrchu alltraeth, ynghyd ag unrhyw gais o dan adran 36A o’r Ddeddf honno am ddatganiad sy’n ymwneud â hawliau mordwyo sy’n cael ei wneud gyda’r cais o dan adran 36; acystyr “colofn 3” (“column 3”) yw colofn 3 o’r tabl yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
2 

(1) Rhaid i’r ceisydd dalu ffi i Weinidogion Cymru am wneud cais.
(2) Y ffi yw cyfanswm—
(a) y ffi gychwynnol yn unol â rheoliad 3;
(b) y ffi ar gyfer archwilio cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 4; ac
(c) y ffi ar gyfer gwneud penderfyniad ynghylch cais a gyfrifir yn unol â rheoliad 5.
3 

(1) Pan fo cais yn cael ei wneud i Weinidogion Cymru, rhaid talu ffi gychwynnol i Weinidogion Cymru (“y ffi gychwynnol”).
(2) Y ffi gychwynnol yw’r swm a nodir yn rhes 1 o golofn 3.
(3) Rhaid i’r ffi gychwynnol fynd gyda’r cais.
4 

(1) Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am archwilio cais (“y ffi archwilio”).
(2) Mae’r ffi archwilio i’w gyfrifo fel cyfanswm—
(a) nifer y diwrnodau neu ran o ddiwrnod a dreulir yn archwilio cais wedi ei luosi â—
(i) pan fo cais yn cael ei archwilio drwy wrandawiad neu ymchwiliad, y gyfradd ddyddiol a nodir yn rhes 2 o golofn 3;
(ii) ym mhob achos arall, y gyfradd ddyddiol a nodir yn rhes 3 o golofn 3; a
(b) unrhyw gostau ac alldaliadau yr eir iddynt mewn gwirionedd gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad ag archwilio’r cais.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi amcangyfrif ysgrifenedig i’r ceisydd o nifer y diwrnodau y disgwylir eu cymryd i archwilio’r cais.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r amcangyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (3) ar unrhyw adeg.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd ar gyfnodau rhesymol mewn cysylltiad â nifer y dyddiau a dreulir mewn gwirionedd yn archwilio’r cais ac unrhyw gostau yr eir iddynt wrth archwilio’r cais.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol.
(7) Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (6), nid oes angen i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes i Weinidogion Cymru gael y taliad.
(8) Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau pan fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (6) yn dod i ben, bernir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.
(9) Mae’r ffi archwilio yn parhau i fod yn daladwy er gwaethaf tynnu’r cais yn ôl.
(10) Yn y rheoliad hwn, bernir bod “diwrnod” yn 7.4 awr.
5 

(1) Rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru am benderfyniad ynghylch cais (“y ffi benderfynu”).
(2) Y ffi benderfynu yw cyfanswm—
(a) ffi benodedig sef y swm a nodir yn rhes 4 o golofn 3; a
(b) unrhyw gostau ac alldaliadau yr eir iddynt mewn gwirionedd gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwneud penderfyniad ynghylch y cais.
(3) Mae’r costau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) yn cynnwys unrhyw gostau cyfreithiol rhesymol neu alldaliadau eraill yr eir iddynt neu a delir gan Weinidogion Cymru neu ar ran Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â gwneud penderfyniad ynghylch cais.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru anfonebu’r ceisydd—
(a) ar gyfer y ffi benodedig ar unrhyw adeg ar ôl gorffen archwilio’r cais, a
(b) mewn cysylltiad â chostau ac alldaliadau ar gyfnodau rhesymol.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gael unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad yr anfonir yr anfoneb berthnasol.
(6) Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (5), nid oes angen i Weinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r cais hyd nes iddynt gael y taliad.
(7) Os bydd y ceisydd yn methu â thalu unrhyw ffi sy’n ddyledus o dan y rheoliad hwn o fewn y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau pan fydd y cyfnod a bennir ym mharagraff (5) yn dod i ben, bernir bod y cais wedi ei dynnu’n ôl.
(8) Mae’r ffi benderfynu yn parhau i fod yn daladwy er gwaethaf tynnu’r cais yn ôl.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru

18 Chwefror 2019
YR ATODLEN
Rheoliadau 3(2), 4(2)(a)(i), 4(2)(a)(ii) a 5(2)(a)


Y Tabl
Colofn 1Y Rheoliad Colofn 2Y Pwnc Colofn 3Y Ffi
3(2) Y ffi gychwynnol £15,350
4(2)(a)(i) Y gyfradd ddyddiol pan fo cais yn cael ei archwilio mewn gwrandawiad neu ymchwiliad £920 heb gynnwys treth ar werth os oes peth
4(2)(a)(ii) Y gyfradd ddyddiol ym mhob achos arall £870 heb gynnwys treth ar werth os oes peth
5(2)(a) Y ffi benderfynu £14,700