
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) (Diwygio) 2019 a daw i rym ar 1 Ebrill 2019.
(2) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i gais a wneir, neu y bwriedir ei wneud, i Weinidogion Cymru o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym.
(3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Gorchymyn Gweithdrefn” yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016.
2 

(1) Mae’r Gorchymyn Gweithdrefn wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2, yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “y Rheoliadau Meini Prawf” (“the Criteria Regulations”) yw Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016;”.
(3) Yn erthygl 8—
(a) ar ddiwedd paragraff (1)(b)(vii) hepgorer “ac”;
(b) ar ddiwedd paragraff (1)(b)(viii) mewnosoder “; a”; ac
(c) ar ôl paragraff (1)(b)(viii) mewnosoder—“
(ix) yn achos datblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o’r Rheoliadau Meini Prawf, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd enwol.”
(4) Yn erthygl 12—
(a) ar ddiwedd paragraff (1)(b)(ix) hepgorer “a”;
(b) ar ddiwedd paragraff (1)(b)(x) mewnosoder “; a”; ac
(c) ar ôl paragraff (1)(b)(x) mewnosoder—“
(xi) yn achos datblygiad o fewn rheoliad 3(1)(ab) o’r Rheoliadau Meini Prawf, datganiad ysgrifenedig ynghylch hyd y llinell arfaethedig a’i foltedd enwol, a pha un a gytunwyd ar yr holl fforddfreintiau angenrheidiol gyda pherchnogion a meddianwyr y tir y bwriedir i’r llinell ei groesi.”
(5) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn.
(6) Yn lle Atodlen 2, rhodder yr Atodlen yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.
(7) Mae’r diwygiadau yn Atodlen 3 i’r Gorchymyn hwn yn cael effaith.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Chwefror 2019
ATODLEN 1
Erthygl 2(5)
“
ATODLEN 1
Erthyglau 8 a 9(5)
”
ATODLEN 2
Erthygl 2(6)

ATODLEN 2
Erthygl 9(5)

ATODLEN 3
Erthygl 2(7)
1 
Mae Atodlen 5 i’r Gorchymyn Gweithdrefn wedi ei diwygio fel a ganlyn
2 
Yn y Tabl—
(a) yn lle paragraff (h) rhodder—“
(h) 
(i) Datblygiad sy’n cael effaith ffisegol uniongyrchol ar heneb gofrestredig.
(ii) Datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn—
(a) ei fod o fewn pellter o 0.5 cilomedr o unrhyw bwynt ar berimedr heneb gofrestredig;
(b) ei fod o fewn pellter o 1 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 15 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.2 hectar neu ragor;
(c) ei fod o fewn pellter o 2 gilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 50 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.5 hectar neu ragor;
(d) ei fod o fewn pellter o 3 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 75 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor; neu
(e) ei fod o fewn pellter o 5 cilomedr o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 100 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor.
(iii) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar safle parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig neu leoliad y parc hwnnw neu’r ardd honno;
(iv) Datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig y mae angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar ei gyfer; neu
(v) Datblygiad sy’n debygol o gael effaith ar werth byd-eang eithriadol Safle Treftadaeth y Byd Gweinidogion Cymru”
(b) hepgorer paragraff (k); ac
(c) ar ôl paragraff (t) mewnosoder—“
(u) Datblygiad—
(i) ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C2;
(ii) sy’n ymwneud â, neu sy’n cynnwys, datblygiad gwasanaethau brys neu ddatblygiad a all fod mewn perygl mawr, ar dir a ddynodwyd yn Barth Llifogydd C1 neu ar dir yr hysbyswyd yr awdurdod cynllunio lleol yn ei gylch gan Gorff Adnoddau Naturiol Cymru at ddiben y ddarpariaeth hon Corff Adnoddau Naturiol Cymru
(v) Unrhyw ddatblygiad Yr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasol”
3 
Yn y diffiniadau a roddir o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”—
(a) yn lle paragraff (d) rhodder—“
(d) ym mharagraff (h)—
(i) mae i “heneb gofrestredig” yr un ystyr ag a roddir i “scheduled monument” yn adran 1(11) o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 (henebion cofrestredig);
(ii) mae cyfeiriad at uchder datblygiad i’w ddehongli fel cyfeiriad at ei uchder wedi ei fesur o lefel y ddaear; ac at ddibenion y paragraff hwn ystyr “lefel y ddaear” (“ground level”) yw lefel arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad dan sylw neu, pan na fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir y datblygiad arno yn wastad, lefel rhan uchaf yr arwyneb yn union gerllaw’r datblygiad;
(iii) ystyr “parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic park or garden”) a “tirwedd hanesyddol gofrestredig” (“registered historic landscape”) yw’r parc, yr ardd neu’r dirwedd sydd wedi ei gynnwys neu ei chynnwys yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru;
(iv) ystyr “Safle Treftadaeth y Byd” (“World Heritage Site”) yw tir sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972;”; a
(b) ar ôl paragraff (i) mewnosoder—“
(j) ym mharagraff (u)—
(i) ystyr “Parth Llifogydd C1” (“Flood Zone C1”) yw ardal o orlifdir sydd wedi ei datblygu ac a wasanaethir gan seilwaith arwyddocaol, gan gynnwys amddiffynfeydd rhag llifogydd;
(ii) ystyr “Parth Llifogydd C2” (“Flood Zone C2”) yw ardal o orlifdir sydd heb seilwaith arwyddocaol i’w hamddiffyn rhag llifogydd;
(iii) mae i “datblygiad gwasanaethau brys” (“emergency services development”) a “datblygiad a all fod mewn perygl mawr” (“highly vulnerable development”) yr un ystyron ag a roddir iddynt yng Nghyfarwyddyd Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysu) (Cymru) 2012.”