
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;ystyr “person perthynol” (“related person”) yw—
(a) perthynas o fewn ystyr “relative” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002, neu
(b) unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef yr ymddengys i’r awdurdod lleol ei bod yn fuddiol i les y plentyn gan roi sylw i’r materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;ystyr “plentyn mabwysiadol” (“adoptive child”) yw plentyn sy’n blentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu’n blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;ystyr “plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth” (“agency adoptive child”) yw plentyn—
(a) mewn cysylltiad ag ef y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 19 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 y dylid ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu,
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu, neu
(c) sydd wedi cael ei fabwysiadu ar ôl cael ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;ystyr “plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth” (“non-agency adoptive child”) yw plentyn—
(a) mewn cysylltiad ag ef y mae person—
(i) wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o’i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu, a
(ii) nad yw’n rhiant geni nac yn llys-riant i’r plentyn, neu
(b) sydd wedi cael ei fabwysiadu gan berson—
(i) nad yw’n rhiant geni i’r plentyn, a
(ii) nad oedd yn llys-riant i’r plentyn cyn iddo fabwysiadu’r plentyn,ond nid yw’n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person—
(a) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 ei fod yn rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol,
(b) y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu,
(c) sydd wedi rhoi hysbysiad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 o’i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu ar gyfer plentyn,
(d) sydd wedi mabwysiadu plentyn, neu
(e) sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ar ôl hynny,ond nid yw’n cynnwys person sy’n llys-riant i’r plentyn neu’n rhiant geni i’r plentyn neu a oedd yn llys-riant i’r plentyn cyn iddo fabwysiadu’r plentyn.
3 

(1) At ddibenion adran 2(6)(b) o Ddeddf 2002 mae’r gwasanaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi fel gwasanaethau cymorth mabwysiadu—
(a) cynhorthwy i rieni mabwysiadol, plant mabwysiadol, a phersonau perthynol mewn perthynas â threfniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant geni neu berson perthynol i’r plentyn mabwysiadol;
(b) gwasanaethau y gellir eu darparu mewn perthynas ag anghenion therapiwtig plentyn mewn perthynas â mabwysiadu’r plentyn;
(c) cynhorthwy at ddiben sicrhau bod y berthynas rhwng plentyn a rhiant mabwysiadol y plentyn yn parhau, gan gynnwys—
(i) hyfforddiant ar gyfer y rhiant mabwysiadol at ddiben diwallu unrhyw anghenion arbennig y plentyn sy’n codi o’r mabwysiad hwnnw, a
(ii) yn ddarostyngedig i baragraff (3), gofal seibiant;
(d) cynhorthwy pan amharwyd ar drefniant neu leoliad mabwysiadu neu pan fo perygl y bydd hynny yn digwydd, gan gynnwys—
(i) cyfryngu, a
(ii) trefnu a chynnal cyfarfodydd i drafod achosion o amharu ar fabwysiadau neu leoliadau;
(e) cynhorthwy i bersonau mabwysiedig sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth mewn perthynas â’u mabwysiad neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a’u perthnasau;
(f) cynhorthwy i berthnasau personau mabwysiedig sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth mewn perthynas â’r mabwysiad hwnnw neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a’r person mabwysiedig;
(g) gwasanaethau i alluogi grwpiau o blant mabwysiadol, rhieni mabwysiadol a rhieni geni neu gyn-warcheidwaid plentyn mabwysiadol i drafod materion sy’n ymwneud â mabwysiadu.
(2) At ddibenion paragraff (1)(e) ac (f), ystyr “perthynas” yw unrhyw berson a fyddai, oni bai am ei fabwysiad, yn perthyn i’r person mabwysiedig drwy waed, gan gynnwys hanner gwaed neu briodas.
(3) At ddibenion paragraff (1)(c)(ii), rhaid i ofal seibiant sy’n darparu llety fod yn llety a ddarperir gan neu ar ran awdurdod lleol o dan adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu gan sefydliad gwirfoddol o dan adran 59 o Ddeddf Plant 1989.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Chwefror 2019