
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
2 

(1) Mae Rheoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (2), yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb”, yn lle “ac fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn (EU) 2015/996;” rhodder “, fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael”; a
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai unrhyw gyfeiriad at un neu ragor o Aelod-wladwriaethau yn gyfeiriad at Weinidogion Cymru.”.
(3) Yn rheoliad 4, ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) At ddibenion paragraff (2)(a), mae cyfeiriad at Atodiad I i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff 1, yn y pedwerydd mewnoliad sydd yn cychwyn “the day is 12 hours”, y geiriau o “The Member States” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.”.
(4) Yn lle rheoliad 15(1)(a) rhodder—“
(a) amcanu i atal a lleihau sŵn amgylcheddol pan fo’n angenrheidiol ac yn benodol pan fo lefelau bod o fewn clyw sŵn yn gallu achosi effeithiau niweidiol ar iechyd dynol;
(aa) amcanu i ddiogelu ansawdd sŵn amgylcheddol pan fo’n dda;”.
(5) Yn rheoliad 22—
(a) ym mharagraff (2)(b), yn lle “y Gyfarwyddeb” rhodder “gyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir”; a
(b) ym mharagraff (3), yn lle “Erthygl 4 o’r Gyfarwyddeb” rhodder “cyfraith berthnasol yr UE a ddargedwir;”.
(6) Yn rheoliad 26(4)(b)—
(a) ym mharagraff (i) hepgorer “neu”; a
(b) hepgorer paragraff (ii).
(7) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 1—
(i) ailrifer y testun presennol yn is-baragraff (1); a
(ii) ar ôl yr is-baragraff (1) newydd mewnosoder—“
(2) At ddibenion is-baragraff (1), mae’r cyfeiriad at baragraffau 1.5, 1.6 a 2.6 o Atodiad VI i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen yn unol â’r addasiadau a ganlyn—
(a) ym mharagraff 1.5, fel pe bai’r cyfeiriad yn y paragraff hwnnw at “major roads”, “major railways” a “major airports” fel y’u diffinnir yn Erthygl 3 o’r Gyfarwyddeb yn gyfeiriad at “major road” (“prif ffordd”), “major railway” (“prif reilffordd”) a “major airport” (“prif faes awyr”) fel y’u diffinnir yn rheoliad 2(2) o’r Rheoliadau hyn; a
(b) ym mharagraffau 1.6 a 2.6, fel pe bai’r geiriau o “These data” hyd at y diwedd wedi eu hepgor.”;
(b) ym mharagraff 2, ar ôl is-baragraff (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion is-baragraff (1)(a), mae cyfeiriad at Atodiad IV i’r Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai’r canlynol wedi eu hepgor—
(a) ym mharagraff 4, y mewnoliad cyntaf;
(b) ym mharagraff 5, y geiriau o “concerning” hyd at “Commission”; ac
(c) paragraff 9”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2019 