
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
2 

(1) Mae Rheoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, ym mharagraff (3)(a), ar y diwedd mewnosoder “, neu o dan gyfraith yr UE a ddargedwir a wnaeth drosi Cyfarwyddeb 2001/18/EC o ran Cymru.”.
(3) Yn lle rheoliad 3 rhodder—“
3. 

(1) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at offerynnau’r UE yn gyfeiriadau at yr offerynnau hynny fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael.
(2) Mae cyfeiriadau at—
(a) yr Undeb Ewropeaidd, neu fel arall at yr ardal y mae’r offeryn hwnnw yn gymwys iddo;
(b) Aelod-wladwriaeth,
mewn unrhyw offeryn gan yr UE y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn yn cynnwys y Deyrnas Unedig.”.
(4) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1(1)(d), yn lle “neu ledled yr Undeb Ewropeaidd” rhodder “, yn genedlaethol neu yn eu gwasgariad naturiol”.
(5) Yn Atodlen 2—
(a) ar ôl paragraff 1 mewnosoder—“
1A. 
Mae cyfeiriad yn yr Atodlen hon at weithgaredd a awdurdodir, a waherddir, a weithredir neu a reolir yn unol â thrwydded neu gofrestriad o dan Gyfarwyddeb gan yr UE, neu at weithgaredd sy’n ddarostyngedig i drwydded neu gofrestriad o’r fath, yn cynnwys, ar ôl y diwrnod ymadael, unrhyw weithgaredd a awdurdodir, a waherddir, a weithredir neu a reolir yn unol â thrwydded neu gofrestriad o dan unrhyw gyfraith yr UE a ddargedwir a wnaeth drosi’r Gyfarwyddeb honno, neu unrhyw weithgaredd sy’n ddarostyngedig i drwydded neu gofrestriad o’r fath.”; a
(b) ym mharagraff 10, yn lle’r geiriau o “Undeb Ewropeaidd” hyd at y diwedd, rhodder “Undeb Ewropeaidd, i mewn iddo neu allan ohono, neu ar ôl y diwrnod ymadael, i mewn i’r Deyrnas Unedig neu allan ohoni, y mae’n ofynnol cael awdurdodiad ar ei gyfer neu sydd wedi ei wahardd o dan Reoliad (EC) Rhif 1013/2006 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar gludo llwythi gwastraff.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2019