
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol a Chofrestru) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Ebrill 2019.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Rheoliadau Cofrestru” (“the Registration Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017;ystyr “y Rheoliadau Datganiadau Blynyddol” (“the Annual Returns Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017.
2 
Maeʼr Rheoliadau Datganiadau Blynyddol wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 5.
3 
Yn rheoliad 6, ar ôl “gwasanaeth cymorth cartref” mewnosoder “, gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli”.
4 
Ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—“
9A. 

(1) Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth cartref gofal, gwasanaeth llety diogel, gwasanaeth canolfan breswyl i deuluoedd neu wasanaeth cymorth cartref gyflwyno’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol yn 2020.
(2) Rhaid i ddarparwyr gwasanaethau sydd wedi eu cofrestru i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli gyflwyno’r set gyntaf o ddatganiadau blynyddol yn 2021.
(3) Os yw darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru i ddarparu gwasanaethau a restrir ym mharagraffau (1) a (2), nid oes angen i ddatganiad blynyddol gynnwys gwybodaeth mewn perthynas â’r gwasanaethau hynny sydd wedi eu rhestru ym mharagraff (2) tan 2021.”
5 
Yn yr Atodlen, ym mharagraff 5—
(a) yn is-baragraff (j), yn lle “.” rhodder “;”;
(b) ar ôl is-baragraff (j) mewnosoder y canlynol—“ond nid yw is-baragraffau (d), (e), (h) ac (i) yn gymwys os nad yw darparwr gwasanaeth wedi ei gofrestru ond i ddarparu gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli.”
6 
Maeʼr Rheoliadau Cofrestru wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 7 i 11.
7 
Yn rheoliad 3(c), yn lle “ohono” rhodder “mewn perthynas ag ef”.
8 
Yn rheoliad 6(c), yn lle “ohono” rhodder “mewn perthynas ag ef”.
9 
Yn rheoliad 7(c), yn lle “o fan” rhodder “mewn perthynas â man”.
10 
Yn Atodlen 1, ar ôl paragraff 31 mewnosoder—“
31A. 
Yn achos gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli, y dyddiad y bwriedir dechrau darparu’r gwasanaeth mewn perthynas â phob man a bennir yn y cais.”
11 
Yn Atodlen 2, ar ôl paragraff (e) mewnosoder—“
(ea) yn achos gwasanaeth mabwysiadu, gwasanaeth maethu, gwasanaeth lleoli oedolion neu wasanaeth eirioli—
(i) enw’r gwasanaeth;
(ii) yr ardal y darperir y gwasanaeth mewn perthynas â hi;
(iii) cyfeiriadau’r swyddfa neu’r swyddfeydd y darperir y gwasanaeth ohoni neu ohonynt;
(iv) cyfeiriadau unrhyw swyddfa arall neu unrhyw swyddfeydd eraill a ddefnyddir mewn cysylltiad â darparu’r gwasanaeth;”.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

12 Chwefror 2019