
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2019.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (“Rheoliadau 1992”) wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 47(1) (traddodi i garchar), ar ôl “a billing authority” mewnosoder “in England”.
(3) Yn rheoliad 54 (atebolrwydd cyd ac unigol: gorfodi), yn lle paragraff (7) rhodder—“
(7) Where the Schedule 12 procedure has been used against two or more joint taxpayers in respect of an amount, a billing authority in England may, subject to paragraph (8), apply for a warrant of commitment at any time against one of them or different warrants may be applied for against more than one of them: but no such application may be made in respect of any of them who has not attained the age of 18 years.”
3 

(1) Nid yw’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2 yn gymwys mewn achos pan fo awdurdod bilio yng Nghymru, cyn 1 Ebrill 2019, wedi gwneud cais i lys ynadon o dan reoliad 47 o Reoliadau 1992 am ddyroddi gwarant i draddodi’r dyledwr i garchar.
(2) Ond mewn achos o’r fath, ni chaiff awdurdod bilio yng Nghymru adnewyddu cais o dan reoliad 48(3) o Reoliadau 1992 ar neu ar ôl 1 Ebrill 2019.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2019