
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Maethiad (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau i rym ar y diwrnod ymadael.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd Meddygol (Cymru) 2000 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae rheoliad 2 (dehongli) wedi ei ailrifo fel paragraff (1) o’r rheoliad hwnnw.
(3) Ar ôl paragraff (1) fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—“
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at gydymffurfedd â darpariaeth yn y Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gydymffurfio â’r ddarpariaeth honno fel y byddai’n ofynnol pe bai’r ddarpariaeth yn ffurfio rhan o’r gyfraith ddomestig.
(3) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae Erthyglau 4 i 5 o’r Gyfarwyddeb, a’r Atodiad iddi, i’w darllen yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn”.”
(4) Yn rheoliad 5A (cymhwyso darpariaethau’r Ddeddf sy’n ymwneud â hysbysiadau gwella), ym mhob lle y mae’n digwydd, yn lle “Atodlen” rhodder “Atodlen 1”.
(5) Ailrifer yr Atodlen yn Atodlen 1.
(6) Ar ôl Atodlen 1 fel y’i hailrifwyd felly, mewnosoder—“
ATODLEN
Rheoliad 2(3)
1. 
Mae’r addasiadau i’r Gyfarwyddeb fel a ganlyn.
2. 
Mae Erthygl 4(2) i’w darllen fel pe bai “Article 9 of Regulation (EU) No 1169/2011” wedi ei roi yn lle “Article 3 of Directive 79/112/EEC,”.
3. 
Mae Erthygl 5 i’w darllen fel pe bai–
(a) ym mharagraff 1–
(i) “where a product is manufactured outside of the United Kingdom” wedi ei roi yn lle “where a product is manufactured in a third country”;
(ii) “territories within the United Kingdom” wedi ei roi yn lle’r cyfeiriad cyntaf at “Member States”;
(iii) y geiriau “Member States may, if they can demonstrate that notification is not necessary in order to monitor those products efficiently in their territory, not impose that obligation” wedi eu hepgor.
(b) ym mharagraff 2, y canlynol wedi ei roi yn lle “are those referred to in Article 9(4) of Directive 89/398/EEC”—“are—
(a) in respect of England, the Secretary of State,
(b) in respect of Wales, the Welsh Ministers,
(c) in respect of Scotland, Food Standards Scotland,
(d) in respect of Northern Ireland, the Food Standards Agency.”
4. 
Yn yr Atodiad, mae paragraff 4 i’w ddarllen fel pe bai “Directive 2006/141/EC wedi ei roi yn lle “Directive 91/321/EEC and its subsequent modifications”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion Bwyd (Cymru) 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli) hepgorer—
(a) y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/83”;
(b) paragraffau (3) a (4).
(3) Yn rheoliad 3(2) (cwmpas y rheoliadau), yn lle “fel y’u diffinnir gan Gyfarwyddeb 2001/83” rhodder “fel y’u diffinnir gan reoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012”.
(4) Yn rheoliad 5 (gwaharddiadau gwerthu sy’n ymwneud â chyfansoddiad ychwanegion bwyd)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn is-baragraff (a) yn lle “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46” rhodder “Atodlen 1 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019”;
(ii) yn is-baragraff (b)(i) yn lle “Atodiad II i Gyfarwyddeb 2002/46” rhodder “Atodlen 2 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019”;
(b) yn lle paragraff (2)(a) rhodder—“
(a) y meini prawf purdeb, os oes rhai, a bennir yng nghyfraith yr UE a ddargedwir neu mewn rheoliadau sy’n gymwys o ran Cymru ac a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 3 o Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019; neu”.
(5) Yn rheoliad 6(3)(b) (cyfyngiadau ar werthu sy’n ymwneud â labelu etc ychwanegion bwyd), yn lle “Atodiad I i Gyfarwyddeb 2002/46” rhodder “Atodlen 1 i Reoliadau Maethiad (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Cafa-cafa mewn Bwyd (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli)—
(a) hepgorer y diffiniadau o “cylchrediad rhydd mewn Aelod-wladwriaethau” a “Gwladwriaeth AEE”;
(b) ar ȏl y diffiniad o “y Ddeddf”, mewnosoder—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw gwlad ac eithrio’r Deyrnas Unedig.”
(3) Yn rheoliad 3 (gwaharddiad ar werthu etc. bwyd sydd wedi’i wneud o Gafa-cafa neu sy’n ei gynnwys) yn lle paragraff (2), rhodder—“
(2) Ni fydd y gwaharddiad a osodir gan baragraff (1) yn gymwys pan fo’r bwyd sydd wedi’i wneud o Gafa-cafa neu sy’n ei gynnwys yn cael ei fewnforio o drydedd wlad os yw’r bwyd yn cael ei allforio, neu i’w allforio, i drydedd wlad.”
5 
Yn rheoliad 4(2)(a) o Reoliadau Ychwanegu Fitaminau, Mwynau a Sylweddau Eraill (Cymru) 2007)  (tramgwyddau a chosbau, hepgorer y geiriau “o’i darllen gydag Erthygl 17(1) (cymhwyso’n drosiannol reolau cenedlaethol)”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Fformiwla Fabanod a Fformiwla Ddilynol (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at gydymffurfedd â darpariaeth yn y Gyfarwyddeb i’w ddarllen fel pe bai’n gyfeiriad at gydymffurfio â’r ddarpariaeth honno fel y byddai’n ofynnol pe bai’r ddarpariaeth yn ffurfio rhan o’r gyfraith ddomestig.”
(3) Yn rheoliad 12(3)(a) (sylweddau rhestredig a’u meini prawf purdeb (fformiwla fabanod a fformiwla ddilynol)), yn lle “yn neddfwriaeth yr UE” rhodder “yng nghyfraith yr UE a ddargedwir”.
7 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, yng ngholofn “y pwnc” o’r tabl—
(a) yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 2(1), yn lle “a gwmpesir gan Gyfarwyddeb 2009/39 Senedd Ewrop a’r Cyngor am fwydydd sydd wedi eu bwriadu at ddefnydd maethol neilltuol” rhodder “(bwydydd y mae gwahaniaeth amlwg rhyngddynt, oherwydd eu cyfansoddiad arbennig neu’r broses o’u gweithgynhyrchu, a bwydydd sydd wedi eu bwriadu ar gyfer eu bwyta’n arferol, sy’n addas at y dibenion maethol a honnir ac sydd wedi eu marchnata mewn ffordd sy’n dangos eu bod yn addas felly)”;
(b) yn y cofnod sy’n ymwneud ag Erthygl 3(2), yn lle “yr Asiantaeth Safonau Bwyd” rhodder “yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion Cymru, Safonau Bwyd yr Alban neu’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Ngogledd Iwerddon”;
(c) yn y cofnodion sy’n ymwneud ag Erthygl 4(2) ac Erthygl 4(3), yn lle “ddeddfwriaeth yr UE” rhodder “gyfraith yr UE a ddargedwir”.
8 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), hepgorer paragraff (5).
(3) Yn Atodlen 1 (gofynion UE penodedig) yn y cofnod yng ngholofn 1, yn lle “Erthygl 15(1) (rhestr yr Undeb)” rhodder “Erthygl 15(1) (rhestr y DU)”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
4 Chwefror 2019