
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2020.
2 

(1) Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a) yn y man priodol mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “peiriant arian awtomatig” (“automatic teller machine”) yw cyfleuster awtomatig sy’n darparu mynediad hunanwasanaeth i ystod o wasanaethau bancio;”;
(b) yn y diffiniad o “hereditament a eithrir” (“excepted hereditament”), ar ôl paragraff (f) mewnosoder—“
(g) a ddefnyddir ar gyfer peiriant arian awtomatig yn unig;”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
18 Rhagfyr 2019