
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Parafeddyg-Ragnodydd Annibynnol a Pharafeddyg-Ragnodydd Atodol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2019 a deuant i rym ar 22 Chwefror 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 “paramedic independent prescriber” means a person—
(a) who is either engaged or employed by the contractor or who is a party to the contract,
(b) who is a registered paramedic, and
(c) against whose name is recorded in the relevant register an annotation signifying that the person is qualified to order drugs, medicines and appliances as a paramedic independent prescriber;”;“
 “registered paramedic” means a person registered in Part 8 of the Health and Care Professions Council register;”;
(b) yn y diffiniad o “prescriber”—
(i) ym mharagraff (g) hepgorer “; and” ac ar ôl “prescriber” mewnosoder “,”;
(ii) ym mharagraff (h), ar ôl “prescriber,” mewnosoder “and”;
(iii) ar ôl paragraff (h) mewnosoder—“
(i) a paramedic independent prescriber,”;
(c) yn y diffiniad o “relevant register”, ar ôl paragraff (c)(ia) mewnosoder—“
(ib) paramedics;”;
(d) yn y diffiniad o “supplementary prescriber”, ar ôl paragraff (b)(iv)(dd) mewnosoder—“
(ee) paramedics, or”.
(3) Yn Atodlen 6 (telerau contractiol eraill)—
(a) ym mharagraff 49(3) a (4) ar ôl “therapeutic radiographer independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a paramedic independent prescriber”;
(b) ym mhennawd paragraff 64, ar ôl “therapeutic radiographer independent prescriber” mewnosoder “, paramedic independent prescriber”;
(c) ym mharagraff 64(1) a (2) ar ôl “therapeutic radiographer independent prescriber” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “, a paramedic independent prescriber”.
3 

(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—“
 ystyr “parafeddyg cofrestredig” (“registered paramedic”) yw person sydd wedi ei gofrestru yn Rhan 8 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal;”;“
 ystyr “parafeddyg-ragnodydd annibynnol” (“paramedic independent prescriber”) yw person—
(a) sy’n barafeddyg cofrestredig, a
(b) y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn yn dynodi bod y person yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel parafeddyg-ragnodydd annibynnol;”
(b) yn y diffiniad o “rhagnodydd”—
(i) ym mharagraff (e) hepgorer “; ac” ac ar ôl “annibynnol” mewnosoder “,”;
(ii) ym mharagraff (f), ar ôl “annibynnol,” mewnosoder “ac”;
(iii) ar ôl paragraff (f) mewnosoder—“
(ff) parafeddyg-ragnodydd annibynnol”;
(c) yn y diffiniad o “cofrestr berthnasol”, ar ôl paragraff (c)(ia) mewnosoder—“
(ib) parafeddygon;”;
(d) yn y diffiniad o “rhagnodydd atodol”—
(i) ar ôl “deietegwyr,” hepgorer “neu”; a
(ii) ar ôl paragraff (a)(iv)(chch) mewnosoder—“
(dd) parafeddygon, neu”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (esemptiadau), ym mharagraff 1—
(a) yn is-baragraff (2)(a), ar ôl “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” mewnosoder “, parafeddyg-ragnodydd annibynnol”;
(b) yn is-baragraff (3), ar ôl y diffiniad o “nyrs sy’n rhagnodi’n annibynnol” mewnosoder—“
 mae i “parafeddyg-ragnodydd annibynnol” (“paramedic independent prescriber”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013;”.
5 

(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “parafeddyg-ragnodydd annibynnol” (“paramedic independent prescriber”) yw person—
(a) sydd wedi ei gofrestru’n barafeddyg yn Rhan 8 o gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal; a
(b) y cofnodir yn erbyn ei enw yn Rhan 8 o’r gofrestr honno nodyn yn dynodi bod y person yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel parafeddyg-ragnodydd annibynnol;”;
(b) yn y diffiniad o “rhagnodydd”, ar ôl “radiograffydd therapiwtig-ragnodydd annibynnol” mewnosoder “, parafeddyg-ragnodydd annibynnol”;
(c) ym mharagraff (c)(i) o’r diffiniad o “rhagnodydd atodol”, ar ôl “deietegwyr,” mewnosoder “parafeddygon,”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
22 Chwefror 2019