
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Gwybodaeth Benodedig) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 13 Rhagfyr 2019.
2 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn pennu gwybodaeth sydd i’w darparu i ddarpar ddeiliad contract o dan baragraff 11 o Atodlen 2 i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (“y Ddeddf”) cyn y telir blaendal cadw i landlord neu asiant gosod eiddo a’r ffordd y mae rhaid darparu’r wybodaeth honno.
(2) Rhaid darparu’r wybodaeth a ganlyn i ddarpar ddeiliad contract—
(a) swm y blaendal cadw;
(b) enwi’r annedd y telir y blaendal mewn cysylltiad â hi;
(c) enw, cyfeiriad a rhif ffôn y landlord (ac os cyfarwyddir felly, yr asiant gosod eiddo) ac unrhyw gyfeiriad e-bost sydd ganddo neu ganddynt;
(d) natur a hyd y contract;
(e) dyddiad meddiannaeth arfaethedig;
(f) swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall;
(g) cyfnod rhentu;
(h) unrhyw delerau contract ychwanegol arfaethedig neu addasiadau neu eithriadau arfaethedig i delerau sylfaenol neu atodol;
(i) swm unrhyw flaendal sicrwydd;
(j) a oes angen gwarantwr ac, os felly, unrhyw amodau perthnasol;
(k) gwiriadau geirda y bydd y landlord (neu’r asiant gosod eiddo) yn eu cynnal; ac
(l) gwybodaeth y mae ar y landlord neu’r asiant gosod eiddo ei hangen gan y darpar ddeiliad contract.
(3) Rhaid darparu’r wybodaeth i ddarpar ddeiliad contract yn ysgrifenedig a gellir ei rhoi yn bersonol neu ei hanfon naill ai drwy’r post neu ei darparu drwy ddulliau electronig os yw’r darpar ddeiliad contract yn cydsynio i’w chael yn electronig.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2019