
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
2 
Yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014, ar ôl rheoliad 14 mewnosoder—“
15. 

(1) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) yn unol ag Erthygl 7(4), neu Erthygl 36(2)(a) neu (b) o FIC—
(a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a roddwyd ar y farchnad o fewn y cyfnod cyn y diwrnod ymadael; a
(b) pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio ag FIC fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn y diwrnod ymadael.
(2) Caniateir i gynhyrchion y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau a ddelir gan berson o fewn y cyfnod cyn y diwrnod ymadael gael eu disbyddu.
(3) Ni chaiff swyddog awdurdodedig o awdurdod bwyd gyflwyno i berson hysbysiad gwella sy’n ymwneud â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7(1) yn unol ag Erthygl 7(4), neu Erthygl 36(2)(a) neu (b) o FIC—
(a) pe bai’r hysbysiad gwella yn ymwneud â chynnyrch penodedig a roddwyd ar y farchnad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â’r diwrnod ymadael ac yn dod i ben â diwedd y cyfnod perthnasol;
(b) os nad yw’r cynnyrch penodedig yn gynnyrch y mae paragraff (1) yn gymwys iddo; ac
(c) pe na bai labelu’r cynnyrch penodedig wedi methu â chydymffurfio ag FIC fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn y diwrnod ymadael.
(4) Caniateir i gynhyrchion gwin y mae paragraff (3) yn gymwys iddynt barhau i gael eu marchnata nes i’r stociau a ddelir gan berson ar y diwrnod ymadael gael eu disbyddu.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw’r cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd;
 ystyr “cynhyrchion gwin” (“wine products”) yw cynhyrchion y mae Rhan 2 o Atodiad 7 i Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth ar gyfer y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol yn gymwys iddynt;
 ystyr “cynnyrch penodedig” (“specified product”) yw cynnyrch y gellir ei adnabod yn unigol a roddir ar y farchnad yn gyfreithlon ac sy’n dwyn dangosiad a restrir ym mhwyntiau 5, 6 neu 7 o Atodiad 10 i Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 668/2014 sy’n gosod rheolau ar gyfer cymhwyso Rheoliad (EU) Rhif 1151/2012 Senedd Ewrop a’r Cyngor ynghylch cynlluniau ansawdd ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a deunydd bwyd, fel yr oedd y Rheoliad hwnnw yn cael effaith yng nghyfraith yr UE yn union cyn y diwrnod ymadael;
 ystyr “hysbysiad gwella” (“improvement notice”) yw hysbysiad gwella yn unol â rheoliad 12(1).”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
28 October 2019