
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 3) 2019.
(2) Ac eithrio rheoliadau 5 a 6, a ddaw i rym yn union cyn y diwrnod ymadael, daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
2 
Yn Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2009, ar ôl rheoliad 22 mewnosoder—“
23. 

(1) Nid yw rheoliad 4 yn gymwys mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn 543/2011—
(a) os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, a
(b) pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael.
(2) Ni chaiff swyddog awdurdodedig arfer y pwerau o dan reoliad 11(1) mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 7 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn 543/2011—
(a) os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, a
(b) pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael.”
3 

(1) Mae Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(1), yn y lle priodol, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth heblaw—
(a) y Deyrnas Unedig;
(b) Beilïaeth Guernsey;
(c) Beilïaeth Jersey;
(d) Ynys Manaw;”.
(3) Yn Atodlen 1, yn Rhan 2, yn y tabl, hepgorer rhes 6.
(4) Yn Atodlen 2, yn Rhan 2, yn y tabl—
(a) yn rhes 2, yng ngholofn 2, hepgorer “Erthygl 3 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 589/2008”, a
(b) hepgorer rhesi 18 i 20.
(5) Yn Atodlen 3, yn y tabl, yn rhes 1, yng ngholofn 3, hepgorer “cenedlaethol”.
4 
Yn Rheoliadau Cig Dofednod (Cymru) 2011, yn rheoliad 2(1), yn y lle priodol, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad neu diriogaeth heblaw—
(a) y Deyrnas Unedig;
(b) Beilïaeth Guernsey;
(c) Beilïaeth Jersey;
(d) Ynys Manaw.”
5 
Yn Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, yn rheoliad 4(2), yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Nid yw paragraff (1)(b)(ii) yn gymwys mewn perthynas â methiant i gydymffurfio ag Erthygl 2(2)(b) o Reoliad (EC) Rhif 1825/2000 Senedd Ewrop a’r Cyngor—
(a) os yw’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig yn ymwneud â chynnyrch a osodwyd ar y farchnad cyn diwedd y cyfnod o 21 o fisoedd sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd, a
(b) pe na bai’r mater sy’n ffurfio’r toriad honedig wedi ffurfio toriad o’r Rheoliad hwnnw fel yr oedd yn gymwys yn union cyn y diwrnod ymadael.””
6 

(1) Mae rheoliad 2 o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle’r geiriau sydd i’w mewnosod yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 fel rheoliad 15(2) rhodder—“
(2) Caniateir marchnata cynhyrchion y mae paragraff (1) yn gymwys iddynt nes i’r stociau gael eu disbyddu.”
(3) Yn lle’r geiriau sydd i’w mewnosod yn Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 fel rheoliad 15(4) rhodder—“
(4) Caniateir marchnata cynhyrchion gwin y mae paragraff (3) yn gymwys iddynt nes i’r stociau gael eu disbyddu.
(4A) Caniateir marchnata cynhyrchion eraill y mae paragraff (3) yn gymwys iddynt hyd nes diwedd y cyfnod perthnasol.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2019