
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym yn union cyn y diwrnod ymadael.
2 
Yn rheoliad 5(2) o Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019, ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi”, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) dogfen sy’n ardystio bod arholiad terfynol annibynnol wedi ei basio, a ddyroddir gan—
(i) corff sydd wedi ei ddynodi gan Weriniaeth Iwerddon i fod yn gyfrifol am draddodi tystysgrifau yn unol ag Erthygl 21(1) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd, neu
(ii) corff y mae’r swyddogaeth o gynnal yr arholiad terfynol neu ddyroddi tystysgrifau wedi cael ei dirprwyo iddo yng Ngweriniaeth Iwerddon yn unol ag Erthygl 21(2) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd,
(ab) tystysgrif a ddyroddir yng Ngweriniaeth Iwerddon drwy ddibynnu ar Erthygl 29(2) o Reoliad yr UE fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE,”;”.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

23 Hydref 2019