
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Tachwedd 2019.
2 
Yng Ngorchymyn Gwahardd Pysgota â Threillrwydi Lluosog (Cymru) 2003, yn erthygl 2, yn lle’r diffiniad o “Rheoliad y Cyngor” rhodder—“
 ystyr “Rheoliad y Cyngor” (“the Council Regulation”) yw Rheoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol;”.
3 
Yng Ngorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010, yn lle erthygl 11(2) rhodder—“
(2) At ddibenion paragraff (1), mae maint cragen fylchog i’w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad 4 i Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.”
4 
Yng Ngorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019, yn lle erthygl 6 rhodder—“
6. 
At ddibenion erthyglau 3, 4 a 5, mae maint cragen foch i’w fesur yn unol â pharagraff 6 o Atodiad 6 i Reoliad (EU) 2019/1241 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 20 Mehefin 2019 ar gadwraeth adnoddau pysgodfeydd a diogelu ecosystemau’r môr drwy fesurau technegol.”
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
9 Hydref 2019