
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau i Gymhwystra Myfyrwyr) (Cymru) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Medi 2019.
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 3, yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
5 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
7 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 3(4)—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
8 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros”—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
9 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 2, ym mharagraff 4(4)—
(a) ar ôl paragraff (a)(ii) mewnosoder—“
(iia) wedi cael caniatâd i aros ar sail bywyd teuluol o dan y rheolau mewnfudo;”;
(b) ym mharagraff (a)(iv), ar ôl “preifat” mewnosoder “neu deuluol”.
Kirsty Williams
Y Gweinidog Addysg, un o Weinidogion Cymru
15 Awst 2019