
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
2 
Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004, ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “hysbysiad cyhoeddus”, yn lle’r geiriau o “a gyhoeddir” hyd at y diwedd rhodder “a gyhoeddir, yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, ar wasanaeth e-hysbysu’r DU (fel y’i diffinnir gan y Rheoliadau hynny)”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2019