
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2019 a daw i rym ar 19 Gorffennaf 2019.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y tabl yn Rhan C o Atodlen 4 i Orchymyn Iechyd Planhigion (Coedwigaeth) 2005, yn eitem 7E, yn y cofnod yn y drydedd golofn;
(1) ar ddiwedd paragraff (a) ar ôl yr hanner colon mewnosoder “or”;
(2) ar ddiwedd paragraff (b) ar ôl yr hanner colon mewnosoder “or”;
(3) hepgorer paragraff (c).
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2019