
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2019.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019;
 mae i “tenantiaeth fyrddaliadol sicr” yr un ystyr ag “assured shorthold tenancy” yn Rhan 1 o Ddeddf Tai 1988.
3 
Mae Rhannau 1 i 5 a 7 o’r Ddeddf (gan gynnwys adran 20, o’i darllen fel y darperir ar ei chyfer yn y rheoliad hwn) i’w trin fel pe baent yn cael effaith mewn perthynas â thenantiaethau byrddaliadol sicr, ac at y diben hwn—
(a) mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at gontract meddiannaeth safonol i’w darllen fel cyfeiriadau at denantiaeth fyrddaliadol sicr,
(b) mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at ddeiliad contract i’w darllen fel cyfeiriadau at denant o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr,
(c) mae cyfeiriadau yn y Ddeddf at landlord i’w darllen fel pe bai iddynt yr un ystyr â chyfeiriadau at landlord yn Neddf Tai 1988,
(d) mae adran 20 o’r Ddeddf i’w darllen fel a ganlyn—“
20. 

(1) Ni chaiff landlord annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth safonol roi hysbysiad o dan is-adran (1)(b) neu (4)(a) o adran 21 o Ddeddf Tai 1988 mewn perthynas â’r annedd ar adeg pan fo—
(a) y landlord wedi ei gwneud yn ofynnol i daliad gwaharddedig gael ei wneud,
(b) o ganlyniad i’r gofyniad, taliad gwaharddedig wedi ei wneud i’r landlord neu i unrhyw berson arall, ac
(c) y taliad gwaharddedig heb ei ad-dalu.
(2) Ni chaiff landlord annedd sy’n ddarostyngedig i gontract meddiannaeth safonol roi hysbysiad o dan is-adran (1)(b) neu (4)(a) o adran 21 o Ddeddf Tai 1988 mewn perthynas â’r annedd ar adeg pan fo—
(a) blaendal cadw a dalwyd mewn perthynas â’r contract meddiannaeth safonol heb ei ad-dalu, a
(b) yr amgylchiadau yn golygu bod y methiant i ad-dalu’r blaendal yn gyfystyr â thorri gofynion Atodlen 2.
(3) Wrth benderfynu at ddibenion yr adran hon a yw taliad gwaharddedig neu flaendal cadw wedi ei ad-dalu, mae’r taliad neu’r blaendal i’w drin fel pe bai wedi ei ad-dalu i’r graddau (os o gwbl) y mae wedi ei gymhwyso tuag at y naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau ohonynt—
(a) taliad rhent o dan y denantiaeth;
(b) taliad sy’n ofynnol fel sicrwydd mewn cysylltiad â’r denantiaeth.”, ac
(e) mae Atodlen 3 o’r Ddeddf i’w thrin fel pe bai wedi ei hepgor.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2019