
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Etholiadau (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 a deuant i rym ar y diwrnod ymadael.
RHAN 1
2 
Yn Atodlen 2 i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (aelodaeth o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol), hepgorer paragraff 1(4)(d).
RHAN 2
3 
Yn Rhan Ch o Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod) i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007, hepgorer paragraff 7.
4 

(1) Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), hepgorer y diffiniadau o “etholiad Senedd Ewrop” (“European Parliamentary election”) ac “etholiad cyffredinol Senedd Ewrop” (“European Parliamentary general election”).
(3) Yn Nhabl 5 (Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001) o Atodlen 4 (cymhwyso, gydag addasiadau, deddfau ac is-ddeddfwriaeth), yn y rhes sy’n darparu ar gyfer addasu Atodlen 3, Ffurf E—
(a) yn lle “Yn lle “European Parliamentary electoral region” rhodder “Referendum voting area…”.” rhodder “Ar ôl “Local government electoral area(s)” mewnosoder “Referendum voting area…”.”;
(b) yn lle “hyd at “electoral region]]”” rhodder “hyd at “electoral area]]””.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2019