
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (Rhyddhadau) (Diwygiadau Amrywiol) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf TGT” yw Deddf Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017.
2 
Yn adran 8(4) o’r Ddeddf TGT (gweithgarwch safle tirlenwi i’w drin fel gwarediad trethadwy), yn y diffiniad o “gwaith adfer”, yn lle “nid yw gwaith i adfer man gwarediadau tirlenwi” rhodder “pan fo man gwarediadau tirlenwi yn cael ei gapio, nid yw gwaith a wneir i adfer y man hwnnw”.
3 
Yn adran 32 o’r Ddeddf TGT (ail-lenwi mwyngloddiau brig a chwareli), yn is-adran (1)—
(a) ym mharagraff (a), yn lle “sy’n ddeunydd cymwys i gyd;” rhodder—“
(i) sy’n ddeunydd cymwys i gyd, neu
(ii) sy’n gymysgedd cymwys o ddeunyddiau nad yw’n gyfan gwbl ar ffurf gronynnau mân;”;
(b) ym mharagraff (d), ar y diwedd mewnosoder “neu warediadau y byddent wedi eu rhyddhau rhag treth o dan yr adran hon pe baent yn cael eu gwneud yn awr”.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2019