
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2019.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2019 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” yn y drefn honno;
(b) ym mharagraff 19(8)(k) (trin costau gofal plant: pensiynwyr), yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003, neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.
4 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£163.00” a “£176.40” rhodder “£167.25” a “£181.00” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£248.80” a “£263.80” rhodder “£255.25” a “£270.60” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£248.80” ac “£85.80” rhodder “£255.25” ac “£88.00” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£263.80” ac “£87.40” rhodder “£270.60” ac “£89.60” yn y drefn honno;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£25.48” rhodder “£26.04”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”.
5 
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 21(2)—
(i) ym mharagraff (p) hepgorer “neu;”;
(ii) ym mharagraff (q) yn lle “.” rhodder “; neu”;
(iii) ar ôl paragraff (q) mewnosoder—“
(r) taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014,”; a
(b) ar ôl paragraff 28B mewnosoder—“
28C. 
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.”
6 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad o dan gynllun awdurdod, swm unrhyw ostyngiad, a chyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(i) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;
(ii) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;
(iii) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;
(iv) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;
(v) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50” yn y drefn honno;
(vi) yn is-baragraff (8) yn lle paragraff (a) rhodder—“
(a) nad yw’n aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith, ac sy’n derbyn cymhorthdal incwm, credyd pensiwn y wladwriaeth, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;”;
(b) ym mharagraff 21(8)(k) (trin costau gofal plant) yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.
7 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£76.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£77.90” ac yn lle “£60.25” rhodder “£61.70”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£76.10” rhodder “£77.90”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£119.50” rhodder “£122.35”;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£33.55” a “£47.80” rhodder “£34.35” a “£48.95” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” rhodder “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” yn y drefn honno;
(c) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£37.65” rhodder “£38.55”.
8 
Yn Atodlen 8 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 18(2)(b), yn lle is-baragraff (iv) rhodder—“
(iv) y ceisydd, nad yw’n aelod o gwpl, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod—(aa) swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 7 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7; neu(bb) y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith; neu
(v) y ceisydd yn aelod o gwpl ac o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod yr aelod hwnnw o’r cwpl—(aa) yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 7 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 7; neu(bb) yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith.”
9 
Yn Atodlen 9 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 46(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
(b) ar ôl paragraff 66 mewnosoder—“
67. 
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 (taliad cymorth profedigaeth) ac eithrio unrhyw daliad o’r fath a ddiystyrir fel cyfalaf o dan baragraff 12(1)(h) neu 65 o Atodlen 10.”
10 
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 12(1)—
(i) ym mharagraff (g) yn lle “,” rhodder “;”;
(ii) ar ôl paragraff (g) mewnosoder—“
(h) taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014,”;
(b) ym mharagraff 43(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
(c) ar ôl paragraff 64 mewnosoder—“
65. 
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.”
11 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 19.
12 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)(a) yn lle “£13.10” rhodder “£13.75”;
(b) yn is-baragraff (1)(b) yn lle “£4.35” rhodder “£4.55”;
(c) yn is-baragraff (2)(a) yn lle “£205.00” rhodder “£210.00”;
(d) yn is-baragraff (2)(b) yn lle “£205.00”, “£355.00” ac “£8.70” rhodder “£210.00”, “£365.00” a “£9.15” yn y drefn honno;
(e) yn is-baragraff (2)(c) yn lle “£355.00”, “£440.00” a “£10.95” rhodder “£365.00”, “£450.00” ac “£11.50”.
13 
Ym mharagraff 55(8)(k) (trin costau gofal plant) yn lle “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003” rhodder “Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 neu unrhyw reoliadau a wneir o dan adrannau 87 a 93 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer cymeradwyo rhieni maeth awdurdodau lleol”.
14 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£163.00” a “£176.40” rhodder “£167.25” a “£181.00” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£248.80” a “£263.80” rhodder “£255.25” a “£270.60” yn y drefn honno;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£248.80” ac “£85.80” rhodder “£255.25” ac “£88.00” yn y drefn honno;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£263.80” ac “£87.40” rhodder “£270.60” ac “£89.60” yn y drefn honno;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£25.48” rhodder “£26.04”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”.
15 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£76.10” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£77.90” ac yn lle “£60.25” rhodder “£61.70”;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£76.10” rhodder “£77.90”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£119.50” rhodder “£122.35”;
(b) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
(i) yn is-baragraff (1) yn lle “£33.55” a “£47.80” rhodder “£34.35” a “£48.95” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2) yn lle “£64.30” ym mhob lle y mae’n digwydd rhodder “£65.85” ac yn lle “£128.60” rhodder “£131.70”;
(iii) yn is-baragraff (3) yn lle “£62.86” rhodder “£64.19”;
(iv) yn is-baragraff (4) yn lle “£36.00” rhodder “£36.85”;
(v) yn is-baragraff (5) yn lle “£25.48”, “£16.40” a “£23.55” rhodder “£26.04”, “£16.80” a “£24.10” yn y drefn honno;
(c) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau), ym mharagraff 24 (swm yr elfen gymorth), yn lle “£37.65” rhodder “£38.55”.
16 
Yn Atodlen 6 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 18(2)(b), yn lle is-baragraff (iv) rhodder—“
(iv) y ceisydd, nad yw’n aelod o gwpl, yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 yr wythnos ar gyfartaledd, a bod—(aa) swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 3 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3; neu(bb) y ceisydd yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith; neu
(v) y ceisydd yn aelod o gwpl ac o leiaf un aelod o’r cwpl hwnnw yn ymgymryd â gwaith am dâl am ddim llai nag 16 awr yr wythnos ar gyfartaledd, a bod yr aelod hwnnw o’r cwpl—(aa) yn bodloni’r amodau cymhwyso ar gyfer y premiwm anabledd o dan baragraff 9 o Atodlen 3 neu’r elfen gymorth o dan baragraff 22 o Atodlen 3; neu(bb) yn aelod o’r grŵp gweithgaredd perthynol i waith.”
17 
Yn Atodlen 7 (symiau a ddiystyrir wrth gyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 46(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
(b) ar ôl paragraff 66 mewnosoder—“
67. 
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014 (taliad cymorth profedigaeth) ac eithrio unrhyw daliad o’r fath a ddiystyrir fel cyfalaf o dan baragraff 12(1)(h) o Atodlen 9 neu baragraff 65 o Atodlen 9.”
18 
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 21(2)—
(i) ym mharagraff (p) hepgorer “neu;”;
(ii) ym mharagraff (q) yn lle “.” rhodder “; neu”;
(iii) ar ôl paragraff (q) mewnosoder—“
(r) taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014.”;
(b) ar ôl paragraff 28B mewnosoder—“
28C. 
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.”
19 
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn lle paragraff 12(1) rhodder—“
(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), unrhyw ôl-ddyled o’r canlynol, neu unrhyw daliad consesiynol a wneir i ddigolledu am ôl-ddyled oherwydd methiant i dalu’r canlynol, ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael yr ôl-ddyled neu’r taliad consesiynol—
(a) unrhyw daliad a bennir ym mharagraffau 11, 13 neu 14 o Atodlen 7;
(b) budd-dal ar sail incwm o dan Ran 7 o DCBNC;
(c) lwfans ceisio gwaith ar sail incwm;
(d) unrhyw daliad tai disgresiynol a delir yn unol â rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymorth Ariannol Disgresiynol 2001;
(e) credyd treth gwaith a chredyd treth plant;
(f) lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm;
(g) credyd cynhwysol;
(h) taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014.”;
(b) ym mharagraff 43(2) ar ôl “Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd” mewnosoder “a Gofal Cymdeithasol”;
(c) ar ôl paragraff 64 mewnosoder—“
65. 
Unrhyw daliad cymorth profedigaeth mewn cysylltiad â’r gyfradd a nodir yn rheoliad 3(2) neu (5) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017 (cyfradd y taliad cymorth profedigaeth), ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig o ddyddiad cael y taliad.”
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
8 Ionawr 2019