
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Cyffordd 40 (Tai-bach) i Gyffordd 42 (Earlswood), Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 mya) 2019 a deuant i rym ar 24 Gorffennaf 2019.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “traffordd yr M4” yw traffordd yr M4 Llundain i Dde Cymru.
2 
Ni chaiff neb yrru cerbyd modur yn gyflymach na 50 milltir yr awr ar y darnau o draffordd yr M4 a bennir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
3 
Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot) (Terfyn Cyflymder 50 Mya) 2004 wedi eu dirymu.
Ken Skates
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru
2 Gorffennaf 2019
YR ATODLEN
Rheoliad 2

Y darnau a ganlyn o draffordd yr M4 o Gyffordd 40 (Tai-bach) i Gyffordd 42 (Earlswood) ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot—
(a) y brif gerbytffordd o bwynt 3.5 cilometr i’r de-ddwyrain o bier canolog trosbont y ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyffordd 41 (Pentyla) hyd at bwynt 4.66 cilometr i’r gogledd-orllewin o bier canolog trosbont y ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyffordd 41 (Pentyla);
(b) y ffyrdd ymadael tua’r gorllewin a thua’r dwyrain wrth Gyffordd 40 (Tai-bach) o’r gyffordd â’r brif gerbytffordd hyd at y gyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol cylchfan yr A4107 Tai-bach;
(c) y ffyrdd ymuno tua’r gorllewin a thua’r dwyrain wrth Gyffordd 40 (Tai-bach) o’r gyffordd â phrif gerbytffordd gylchredol cylchfan yr A4107 Tai-bach hyd at y gyffordd â’r brif gerbytffordd;
(d) y ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth Gyffordd 41 (Pentyla) o’i chyffordd â phrif gerbytffordd yr A48 hyd at ei chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin;
(e) y ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyffordd 41 (Pentyla) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin am bellter o 783 o fetrau i gyfeiriad y gogledd-orllewin;
(f) y ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth Gyffordd 41 (Pentyla) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain am bellter o 359 o fetrau i gyfeiriad y gogledd-orllewin;
(g) y ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth Gyffordd 42 (Earlswood) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r gorllewin am bellter o 266 o fetrau i gyfeiriad y de-orllewin; ac
(h) y ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth Gyffordd 42 (Earlswood) o’i chyffordd â’r brif gerbytffordd tua’r dwyrain am bellter o 235 o fetrau i gyfeiriad y gogledd-orllewin ac yna i gyfeiriad y de-ddwyrain.
