
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2019.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y diwrnod ymadael.
2 
Yn rheoliad 4(a) o Reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004, yn lle “European Union” rhodder “United Kingdom”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 2, yn y tabl—
(a) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 6(1) o Reoliad 852/2004, yn yr ail golofn, yn lle “ag unrhyw ddeddfwriaeth arall yr UE neu unrhyw gyfraith genedlaethol arall sy’n gymwys” rhodder “â chyfraith y Deyrnas Unedig”;
(b) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4(1) o Reoliad 853/2004, yn yr ail golofn, hepgorer “ac sydd wedi’u gweithgynhyrchu yn yr Undeb Ewropeaidd”;
(c) hepgorer y cofnod ar gyfer Erthygl 8 o Reoliad 853/2004.
(3) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 10, yn lle “mewn un neu ragor o ieithoedd y Gymuned” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg ac yn Saesneg”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn y diffiniad o “trydedd wlad”, yn lle “unrhyw wlad neu diriogaeth, heblaw Kalaallit Nunaat (Greenland), nad yw’n Wladwriaeth AEE gyfan neu’n rhan o Wladwriaeth AEE” rhodder “gwlad neu wladwriaeth ac eithrio’r Deyrnas Unedig”.
(3) Yn lle rheoliad 4 rhodder—“
4. 
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer penodedig o Ewros i’w ddarllen fel y swm hwnnw wedi ei drosi i bunnoedd sterling gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid o GBP1 = EUR1.1413.”
5 

(1) Mae Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 4, yn lle’r Tabl rhodder—“

Colofn 1Awdurdod Cymwys Colofn 2Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
Yr Asiantaeth Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1) a (2), 24, 27, 28, 31(1) a (2)(f), a 54
Yr awdurdod bwyd anifeiliaid Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 27, 28, 31, a 54”.
(3) Yn Atodlen 5, yn lle’r Tabl rhodder—“

Colofn 1Awdurdod Cymwys Colofn 2Y darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
Yr Asiantaeth Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 14, 19(1) a (2), 24, 27, 28, 31, a 54
Yr awdurdod bwyd Erthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1)i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 27, 28, 31, a 54”.
(4) Yn Atodlen 6, yn lle’r cofnod cyntaf yng Ngholofn 2 o’r Tabl rhodder—“Gofyniad bod rhaid i weithredwyr busnesau bwyd anifeiliaid a bwyd neu eu cynrychiolwyr roi hysbysiad digonol ymlaen llaw o amcangyfrif o’r dyddiad a’r amser y bydd y llwyth yn ffisegol yn cyrraedd y pwynt mynediad dynodedig ac o natur y llwyth yn y modd a nodir yn yr Erthygl honno (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llenwi a’i throsglwyddo o leiaf un diwrnod gwaith ymlaen llaw) ac yn Erthygl 7 (dogfen fynediad gyffredin i gael ei llunio yn Saesneg, neu yn Gymraeg ac yn Saesneg).”
6 

(1) Mae Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2012 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(3), hepgorer “Cymunedol”.
(3) Yn rheoliad 6(1)—
(a) hepgorer is-baragraff (a);
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “16(1)” rhodder “16”.
7 

(1) Mae Rheoliadau Ychwanegion, Cyflasynnau, Ensymau a Thoddyddion Echdynnu Bwyd (Cymru) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 15.
(3) Yn Atodlen 1—
(a) yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(b) yn Nhabl 2—
(i) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 21.1 (fel y’i darllenir gydag Erthygl 22), yn yr ail golofn, yn lle “mewn iaith a ddeellir yn hawdd gan y prynwyr” rhodder “yn Saesneg, neu yn Gymraeg ac yn Saesneg”;
(c) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 26.2, yn yr ail golofn, yn lle “y Comisiwn” rhodder “yr Awdurdod”.
(4) Yn Atodlen 2, yn Nhabl 1—
(a) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 10, yn yr ail golofn, yn lle “restr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;
(b) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(c) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 19.3, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
(5) Yn Atodlen 3, yn Nhabl 1, yn y cofnod ar gyfer Erthygl 9.5, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
(6) Yn Atodlen 4, yn Nhabl 1—
(a) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 4, yn yr ail golofn, yn lle “rhestr yr Undeb” rhodder “y rhestr ddomestig”;
(b) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.1, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”;
(c) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 14.2, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod”.
8 

(1) Mae Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) hepgorer y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2003/40”;
(ii) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “deddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu” (“relevant bottled water legislation”) yw—
(a) o ran Lloegr, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Lloegr) 2007;
(b) o ran Gogledd Iwerddon, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Gogledd Iwerddon) 2015;
(c) o ran yr Alban, Rheoliadau Dŵr Mwynol Naturiol, Dŵr Ffynnon a Dŵr Yfed wedi’i Botelu (Yr Alban) (Rhif 2) 2007;”;
(iii) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “trydedd wlad” (“third country”) yw unrhyw wlad ac eithrio’r Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys—
(a) Beilïaeth Guernsey;
(b) Beilïaeth Jersey;
(c) Ynys Manaw.”;
(b) ym mharagraff (3), hepgorer “Cyfarwyddeb 2003/40,”.
(3) Yn rheoliad 3(1)—
(a) yn is-baragraff (a), yn lle’r geiriau o “Cyfarwyddeb” hyd at y diwedd rhodder “rheoliad 2(1) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012”;
(b) yn is-baragraff (d), yn lle “wlad heblaw Gwladwriaeth AEE” rhodder “drydedd wlad”.
(4) Yn rheoliad 4—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (b), yn lle “yn unol â Chyfarwyddeb 2009/54” rhodder “o dan y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu”;
(ii) hepgorer is-baragraff (c);
(iii) yn is-baragraff (d)—(aa) yn y geiriau o flaen paragraff (i), yn lle “gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE” rhodder “trydedd wlad”;(bb) yn lle paragraff (ii) rhodder—“
(ii) pan fo ganddo gydnabyddiaeth gyfatebol a roddir gan awdurdod cyfrifol mewn rhan arall o’r Deyrnas Unedig.”;
(b) hepgorer paragraff (3).
(5) Ar ôl rheoliad 4 mewnosoder—“
4A. 

(1) Mae’r dŵr a ganlyn wedi ei achredu, hynny yw mae’n cael ei drin at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai’n ddŵr mwynol naturiol a gydnabyddir gan yr Asiantaeth o dan reoliad 4(2)(d)(i)—
(a) dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE;
(b) dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ;
(c) dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn Norwy.
(2) Mae’r achrediad ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dŵr mwynol naturiol y mae is-baragraff (a), (b) neu (c) o’r paragraff hwnnw yn gymwys iddo hyd nes y dyddiad perthnasol y daw’r achrediad i ben.
(3) Yn achos dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE, os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod o leiaf un dŵr mwynol sefydledig a gydnabyddir yn y DU nad yw’n cael ei drin gan yr awdurdod cyfrifol mewn o leiaf un Aelod-wladwriaeth fel dŵr mwynol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, caiff Gweinidogion Cymru hysbysu’r Comisiwn fod yr achrediad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(a) mewn perthynas â dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE, i beidio.
(4) Yn achos dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ, os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod o leiaf un dŵr mwynol sefydledig a gydnabyddir yn y DU nad yw’n cael ei drin fel dŵr mwynol a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, caiff Gweinidogion Cymru hysbysu Awdurdod Bwyd a Milfeddygol Gwlad yr Iâ fod yr achrediad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(b) mewn perthynas â dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ, i beidio.
(5) Yn achos dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn Norwy, os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod o leiaf un dŵr mwynol sefydledig a gydnabyddir yn y DU nad yw’n cael ei drin yn Norwy fel dŵr mwynol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, caiff Gweinidogion Cymru hysbysu Awdurdod Diogelwch Bwyd Norwy fod yr achrediad y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (1)(c) mewn perthynas â dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn Norwy, i beidio.
(6) Ni chaniateir rhoi hysbysiad o dan baragraff (3), (4) neu (5) cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau ar y diwrnod y mae’r diwrnod ymadael yn digwydd.
(7) Rhaid i’r dyddiad a bennir mewn hysbysiad a roddir o dan baragraff (3), (4) neu (5) fel y dyddiad y daw achrediad i ben fod o leiaf 6 mis ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad arno, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad hwnnw arno.
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi copi o unrhyw hysbysiad a roddir o dan baragraff (3), (4) neu (5) mewn modd sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn briodol er mwyn dwyn ei effaith, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, i sylw’r rhai hynny neu gynrychiolydd y rhai hynny, yng Nghymru, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr hysbysiad yn debygol o effeithio arnynt.
(9) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi o bryd i’w gilydd, mewn modd sy’n ymddangos i Weinidogion Cymru ei fod yn briodol, restr o enwau y dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE, yng Ngwlad yr Iâ ac yn Norwy sy’n cael ei drin fel dŵr mwynol naturiol achrededig o dan baragraff (1) (“rhestr paragraff 9”).
(10) Pan roddir hysbysiad o dan baragraff (3), (4) neu (5), rhaid i Weinidogion Cymru ddiweddaru’r rhestr paragraff 9 cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y daw’r achrediad i ben.
(11) Mae’r rhestr paragraff 9 i’w thrin fel tystiolaeth derfynol bod y dŵr yn ddŵr mwynol naturiol achrededig at ddibenion y Rheoliadau hyn.
(12) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “Aelod-wladwriaeth” (“member State”) yw Aelod-wladwriaeth o’r UE fel y mae wedi ei gyfansoddi yn union ar ôl y diwrnod ymadael;
 ystyr “Cyfarwyddeb 2009/54/EC” (“Directive 2009/54/EC”) yw Cyfarwyddeb 2009/54/EC fel y’i hymgorfforir yng nghytundeb yr AEE, ac fel yr oedd yn cael effaith, yn union cyn y diwrnod ymadael;
 ystyr “dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yng Ngwlad yr Iâ” (“established Icelandic recognised natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yng Ngwlad yr Iâ—
(a) yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, a
(b) y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer;
 ystyr “dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn y DU” (“established recognised UK natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yn y Deyrnas Unedig—
(a) yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, a
(b) y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer;
 ystyr “dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn Norwy” (“established Norwegian recognised natural mineral water”) yw dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear yn Norwy—
(a) yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, a
(b) y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer;
 ystyr “dŵr mwynol naturiol sefydledig a gydnabyddir yn yr UE” (“established EU recognised natural mineral water”) yw—
(a) dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear mewn unrhyw Aelod-wladwriaeth—
(i) yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC, a
(ii) y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer;
(b) dŵr mwynol naturiol a echdynnwyd o’r ddaear mewn trydedd wlad—
(i) yr oedd ganddo, yn union cyn y diwrnod ymadael, statws dŵr mwynol naturiol a gydnabyddir at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC ar ôl cael ei gydnabod gan unrhyw Aelod-wladwriaeth fel dŵr mwynol naturiol at ddibenion Cyfarwyddeb 2009/54/EC ar sail tystysgrif (“tystysgrif Erthygl 1(2)”) o’r math y cyfeirir ato yn yr ail is-baragraff o Erthygl 1(2) o Gyfarwyddeb 2009/54/EC a ddyroddir gan yr awdurdod cyfrifol yn y wlad y’i hechdynnwyd ynddi,
(ii) y mae’r gydnabyddiaeth honno yn parhau mewn grym ar ei gyfer, a
(iii) y mae’r dystysgrif Erthygl 1(2) yn parhau i fod yn ddilys ar ei gyfer;
 ystyr “dyddiad y daw’r achrediad i ben” (“accreditation cessation date”) yw’r dyddiad dod i ben a bennir mewn hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (3), (4) neu (5);
 mae i “trydedd wlad” yr un ystyr ag a roddir i “third country” yng Nghyfarwyddeb 2009/54/EC.”
(6) Yn rheoliad 24(1)(a), yn lle “bodloni gofynion Cyfarwyddeb 98/83 ac yn cydymffurfio’n benodol” rhodder “cydymffurfio”.
(7) Yn rheoliad 27A—
(a) ym mharagraff (b), hepgorer “neu o Wladwriaeth AEE arall”;
(b) ym mharagraff (c)—
(i) yn lle “wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall” rhodder “drydedd wlad”;
(ii) hepgorer “neu mewn Gwladwriaeth AEE arall”.
(8) Yn rheoliad 27B—
(a) ym mharagraff (b)—
(i) hepgorer “neu o Wladwriaeth AEE arall”;
(ii) yn lle’r geiriau o “fel triniaeth sy’n cydymffurfio” i “fel y’i gweithredir” rhodder “o dan y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu sy’n gymwys”;
(iii) hepgorer “neu’r Wladwriaeth AEE honno”;
(b) ym mharagraff (c)—
(i) yn lle “wlad nad yw’n Wladwriaeth AEE arall” rhodder “drydedd wlad”;
(ii) hepgorer “neu mewn Gwladwriaeth AEE arall”;
(iii) yn lle’r geiriau o “Erthygl 5” i “ddŵr ffynnon” rhodder “y ddeddfwriaeth berthnasol ynghylch dŵr wedi’i botelu sy’n gymwys yn y rhan honno o’r Deyrnas Unedig”.
(9) Hepgorer rheoliad 33(4).
(10) Yn rheoliad 36(1)(b), yn lle “gwlad ar wahân i Wladwriaeth AEE” rhodder “trydedd wlad”.
(11) Yn Atodlen 1—
(a) ym mharagraff 1, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), hepgorer “at ddibenion Erthygl 1 o
Gyfarwyddeb 2009/54”;
(b) yn Rhan 2, yn y pennawd, yn lle “gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE” rhodder “trydedd wlad”;
(c) ym mharagraff 5, yn y geiriau o flaen is-baragraff (a)—
(i) yn lle “gwlad heblaw Gwladwriaeth AEE” rhodder “trydedd wlad”;
(ii) hepgorer “at ddibenion Erthygl 1 o Gyfarwyddeb 2009/54”.
(12) Yn Atodlen 10, ym mharagraff 1(1), yn lle “ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 98/83 a’r” rhodder “â’r”.
(13) Yn Atodlen 11, ym mharagraff 1, yn lle “ag Atodiad III i Gyfarwyddeb 2013/51 a’r” rhodder “â’r”.
9 

(1) Mae Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Cyfansoddiad, Marchnata a Defnydd) (Cymru) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(2)—
(a) yn is-baragraff (a), hepgorer y geiriau o “, fel y’i darllenir” hyd at y diwedd;
(b) yn is-baragraff (c), yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.
(3) Yn rheoliad 10(2)(d), yn lle “Comisiwn” rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.
(4) Yn rheoliad 13(2)—
(a) hepgorer is-baragraff (a);
(b) yn is-baragraff (b), yn lle “Comisiwn” rhodder “awdurdod priodol”.
(5) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen 1 newydd a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.
10 

(1) Mae Rheoliadau Bwydydd Newydd (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1, yn y tabl—
(a) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 6(2) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 24 a 35(2), yn yr ail golofn, yn lle “rhestr yr Undeb” rhodder “y rhestr”;
(b) yn y cofnod ar gyfer Erthygl 25, yn yr ail golofn, yn lle “Comisiwn Ewropeaidd” rhodder “Awdurdod Diogelwch Bwyd”.
Vaughan Gething
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
25 Mehefin 2019
ATODLEN
Rheoliad 9(5)
“
Atodlen 1
Rheoliad 12


Y ddarpariaeth benodedig Y pwnc
Erthygl 4(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 4(3) ac Atodiad 1 Gofynion diogelwch cyffredinol a gofynion eraill i’w bodloni pan osodir bwyd anifeiliaid ar y farchnad neu pan y’i defnyddir.
Erthygl 5(1) Estyn y gofynion mewn perthynas â bwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd mewn deddfwriaeth arall i fod yn gymwys i fwyd anifeiliaid ar gyfer anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd.
Erthygl 5(2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) Rhwymedigaeth ar berson sy’n gyfrifol am labelu i roi gwybodaeth ar gael i’r awdurdod cymwys.
Erthygl 6(1), fel y’i darllenir gydag Atodiad 3 Gwaharddiad neu gyfyngiad ar farchnata neu ddefnyddio deunyddiau penodol at ddibenion maeth anifeiliaid.
Erthygl 8 Rheolaethau ar y lefelau o ychwanegion mewn bwydydd anifeiliaid.
Erthygl 9 Rheolaethau ar farchnata bwydydd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol.
Erthygl 11, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3), Atodiadau 2 a 4 a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid Rheolau ac egwyddorion sy’n llywodraethu labelu a chyflwyno bwyd anifeiliaid.
Erthygl 12(4) a (5) Dynodi’r person sy’n gyfrifol am labelu a rhwymedigaethau a chyfrifoldebau’r person hwnnw.
Erthygl 13(1), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) Amodau cyffredinol ar wneud honiad ynghylch nodweddion neu swyddogaethau bwyd anifeiliaid wrth ei labelu neu ei gyflwyno.
Erthygl 13(2) a (3), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) Amodau arbennig sy’n gymwys i honiadau ynghylch gwneud y gorau o’r maeth ac ynghylch cynnal neu warchod yr amodau ffisiolegol.
Erthygl 14(1) a (2), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) Y gofynion ar gyfer cyflwyno’r manylion labelu mandadol.
Erthygl 15, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 a chydag Atodiadau 6 a 7 Gofynion labelu mandadol cyffredinol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd.
Erthygl 16, fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 a chydag Atodiadau 2 a 5 a’r Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid Gofynion labelu penodol ar gyfer deunyddiau bwyd anifeiliaid.
Erthygl 17(1) a (2) fel y’i darllenir gydag Erthyglau 12(1), (2) a (3) ac 21 a chydag Atodiadau 2, 6 a 7 Gofynion labelu penodol ar gyfer bwydydd anifeiliaid cyfansawdd.
Erthygl 18, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid at ddibenion maethol penodol (bwydydd anifeiliaid deietegol).
Erthygl 19, fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) Gofynion labelu ychwanegol ar gyfer bwyd anifeiliaid anwes.
Erthygl 20(1), fel y’i darllenir gydag Erthygl 12(1), (2) a (3) a chydag Atodiad 8 Gofynion ychwanegol ar gyfer labelu bwyd anifeiliaid nad yw’n cydymffurfio, megis bwyd anifeiliaid sy’n cynnwys deunyddiau halogedig.
Erthygl 23 Gofynion sy’n ymwneud â phecynnu a selio deunyddiau bwyd anifeiliaid a bwydydd anifeiliaid cyfansawdd ar gyfer eu rhoi ar y farchnad.
Erthygl 24(2) Gofyniad, os defnyddir enw deunydd bwyd anifeiliaid sydd wedi ei restru yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid, fod rhaid cydymffurfio â holl ddarpariaethau perthnasol y Catalog.
Erthygl 24(3) Rhwymedigaeth ar berson sy’n rhoi ar y farchnad am y tro cyntaf ddeunydd bwyd anifeiliaid nad yw wedi ei restru yn y Catalog o ddeunyddiau bwyd anifeiliaid i hysbysu am ei ddefnydd.”