
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota am Gregyn Moch (Cymru) 2019 a daw i rym ar 4 Gorffennaf 2019.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Mae erthyglau 3 a 5 yn gymwys o ran parth Cymru.
2 
Yn y Gorchymyn hwn, oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall—
 ystyr “cragen foch” (“whelk”) yw pysgodyn cragen o’r rhywogaeth Buccinum undatum;
 ystyr “cwch pysgota Prydeinig” (“British fishing boat”) yw cwch pysgota sydd naill ai wedi ei gofrestru yn y Deyrnas Unedig o dan Ran II o Ddeddf Llongau Masnach 1995 neu sy’n eiddo’n gyfan gwbl i bersonau sy’n gymwys i fod yn berchen ar longau Prydeinig at ddibenion y rhan honno o’r Ddeddf;
 mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Pysgod Môr (Cadwraeth) 1967;
 ystyr “maint lleiaf penodedig” (“specified minimum size”) yw—
(i) 55 o filimetrau cyn 4 Gorffennaf 2020; a
(ii) 65 o filimetrau ar 4 Gorffennaf 2020 ac ar ôl hynny; ac
 mae i “parth Cymru” (“Welsh zone”) yr ystyr a roddir yn adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
3 
Mae cychod pysgota Prydeinig wedi eu gwahardd rhag pysgota am gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig.
4 
At ddibenion adran 1(1) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd glanio unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw) rhagnodir mai’r maint lleiaf ar gyfer cregyn moch yw’r maint lleiaf penodedig.
5 
At ddibenion adran 1(3) o’r Ddeddf (sy’n gwahardd cludo ar gychod pysgota penodedig unrhyw bysgodyn môr o unrhyw ddisgrifiad nad yw’n bodloni’r gofynion o ran maint a ragnodir mewn perthynas â physgod môr o’r disgrifiad hwnnw), mae cychod pysgota Prydeinig wedi eu gwahardd rhag cludo unrhyw gregyn moch sy’n llai na’r maint lleiaf penodedig.
6 
At ddibenion erthyglau 3, 4 a 5, mae maint cragen foch i’w fesur yn unol â pharagraff 7 o Atodiad XIII i Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 850/98 ar gyfer gwarchod a rheoli adnoddau pysgodfeydd drwy fesurau technegol er mwyn diogelu pysgod ifanc organebau môr.
7 

(1) Mae Is-ddeddf 11 (Cregyn Moch – Maint Lleiaf) Pwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru gynt wedi ei dirymu.
(2) Yn Is-ddeddf 19 (Meintiau Pysgod Penodedig) Pwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru gynt, yn y Tabl sy’n pennu maint lleiaf pysgod cregyn, dileer y rhes sy’n ymwneud â Chregyn Moch.
(3) Yng Ngorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010, yn y Tabl yn Atodlen 3, dileer y rhes sy’n ymwneud ag Is-ddeddf 11.
Lesley Griffiths
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2019