
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2019 a deuant i rym ar 19 Gorffenaf 2019. .
2 

(1) Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) ar ddiwedd paragraff (e), hepgorer “ac”;
(b) ar ddiwedd paragraff (f) yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl paragraff (f) mewnosoder—“
(g) Dosbarth G – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac a adleolwyd i’r Deyrnas Unedig o dan adran 67 o Ddeddf Mewnfudo 2016 ac sydd â chaniatâd cyfyngedig i aros o dan baragraff 352ZH o’r rheolau mewnfudo; ac
(h) Dosbarth H – person sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon ac y rhoddwyd caniatâd Calais iddo i aros yn y Deyrnas Unedig o dan baragraff 352J o’r rheolau mewnfudo.”
(3) Yn rheoliad 4 (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) At ddibenion penderfynu pa un a yw’r unig hawl i breswylio sydd gan berson yn un o fath a grybwyllir ym mharagraff (1)(b) neu (c), mae hawl i breswylio yn rhinwedd y rhoddwyd caniatâd cyfyngedig i berson i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi o dan Ddeddf Mewnfudo 1971 yn rhinwedd Atodiad EU i’r rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3 o’r Ddeddf honno i’w ddiystyru.”
3 
Nid yw’r diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(3) yn cael effaith mewn perthynas â chais i gael dyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf Tai 1996 a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
24 Mehefin 2019