
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 a deuant i rym ar 5 Gorffennaf 2019.
2 

(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5, ym mharagraffau (2) a (4), yn lle “Adran yr Amgylchedd”, rhodder “unrhyw gyngor dosbarth”.
(3) Yn rheoliad 7(1)(b), yn lle “cenedlaethol” rhodder “sy’n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” ym mharagraff (b), yn lle “Adran yr Amgylchedd” rhodder “cyngor dosbarth”.
(3) Yn rheoliad 5(5)(c), yn lle “cenedlaethol” rhodder “sy’n cylchredeg yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16—
(a) ym mharagraff (1) ar ôl y gair “hysbysiad” mewnosoder “drwy hysbyseb leol”;
(b) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Rhaid i’r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad o dan baragraff (1) gyntaf fod yn ddim llai na dwy wythnos sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn y dyddiad a bennir ar gyfer dechrau’r ymchwiliad.”;
(c) hepgorer paragraff (2);
(d) ym mharagraff (3), yn lle “pharagraffau (1) a (2)” rhodder “pharagraff (1)”.
Julie James
Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
11 Mehefin 2019