
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Diwygio) 2018 a daw i rym ar 2 Awst 2018.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993.
2 
Yn erthygl 1(2) o’r prif Orchymyn, yn y diffiniad o “the trust”, yn lle “Velindre National Health Service Trust” rhodder “Velindre University National Health Service Trust”.
3 
Yn lle erthygl 2 o’r prif Orchymyn, rhodder—“
2. 
There is hereby established an NHS trust which shall be called Velindre University National Health Service Trust or Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Prifysgol Felindre.”
4 
Ar ôl erthygl 4 o’r prif Orchymyn, mewnosoder—“
4A. 

(1) The trust is to be regarded as having a significant teaching commitment by virtue of paragraph 5(3)(b) of Schedule 3 to the National Health Service (Wales) Act 2006.
(2) One of the non-executive directors must be appointed from Cardiff University.”
5 
Nid yw’r enw newydd y rhoddir effaith iddo gan reoliad 3—
(a) yn effeithio ar unrhyw hawl neu rwymedigaeth unrhyw berson; na
(b) yn annilysu unrhyw offeryn (pa un a’i gwnaed cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym) sy’n cyfeirio at Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, a rhaid dehongli pob offeryn neu ddogfen arall sy’n cyfeirio at yr enw hwnnw fel pe bai’n cyfeirio at yr ymddiriedolaeth.
Vaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
19 Gorffennaf 2018