
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Awst 2018.
2 
Mae Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a) yn adran 173(1)(b) yn lle “section 81(8)” rhodder “section 133(11)”; ac
(b) yn adran 173(7) hepgorer “9 or”.
3 
Yn adran 40 o Ddeddf Tai 1996 hepgorer is-adran (5).
4 
Mae Rheolau Cofrestru Tir 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheol 95, hepgorer paragraff (2)(d);
(b) yn rheol 183A, hepgorer paragraff (1); ac
(c) yn Atodlen 4—
(i) yn ffurflen X—(aa) yn y pennawd, hepgorer “81 or”;(bb) yn lle “section 81(8)” rhodder “section 133(11)”;(cc) hepgorer “section 81 of that Act or”;
(ii) hepgorer ffurflen KK.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Tai ac Adfywio, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru
18 Gorffennaf 2018