
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2018.
RHAN 2
2 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3 
Yn rheoliad 46(3)(c), ar ôl “incwm aelwyd” mewnosoder “sy’n fwy na £18,370”.
4 
Yn lle rheoliad 56 rhodder—“
56. 

(1) Pan fo myfyriwr llawnamser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).
(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—Nodi swm—
(a) y grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 46, a
(b) y grant sylfaenol sy’n daladwy i’r myfyriwr o dan reoliad 45.Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.Nodi swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 8, pan fo—
(a) Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae symiau’r cymorth byw yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b) Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c) Colofn 3 yn pennu symiau cymwys y cymorth byw ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 8
Colofn 1Blwyddyn academaidd Colofn 2Lleoliad y myfyriwr Colofn 3Swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr cymorth arbennig
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018 Byw gartref £7,650
 Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £11,250
 Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £9,000Pa un bynnag yw’r mwyaf o—
(a) y swm a nodir yng Ngham 3, neu
(b) symiau’r grant a nodir yng Ngham 1 plws isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr fel y’i pennir drwy gyfeirio at Dabl 8A,yw uchafswm y cymorth byw sydd ar gael i’r myfyriwr.Cyfrifo uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth drwy ddidynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 2 o uchafswm y cymorth byw a nodir yng Ngham 4.Didynnu swm unrhyw grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr nad yw’n cael ei drin fel taliad cymorth arbennig o uchafswm tybiannol y benthyciad cynhaliaeth a gyfrifir yng Ngham 5.Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.
(3) Yn Nhabl 8A—
(a) mae Colofn 1 yn pennu’r flwyddyn academaidd y mae isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth yng Ngholofn 3 yn gymwys mewn perthynas â hi;
(b) mae Colofn 2 yn pennu’r lleoliad y mae’r myfyriwr yn byw ynddo (gweler paragraff 3 o Atodlen 1);
(c) mae Colofn 3 yn pennu isafsymiau’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy ar gyfer y cofnodion cyfatebol yng Ngholofnau 1 a 2.

Tabl 8A
Colofn 1Blwyddyn academaidd Colofn 2Lleoliad y myfyriwr Colofn 3Isafswm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018 Byw gartref £3,325
 Byw oddi cartref, astudio yn Llundain £5,125
 Byw oddi cartref, astudio yn rhywle arall £4,000
(4) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.”
5 
Yn rheoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), ar y diwedd mewnosoder—“
(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 58A.”
6 
Ar ôl rheoliad 58 mewnosoder—“
58A. 

(1) Pan fo myfyriwr rhan-amser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2).
(2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth drwy gymhwyso’r camau a ganlyn—Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50.Cyfrifo swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 10A, pan fo Colofn 2 o’r tabl yn pennu swm y cymorth byw sy’n gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd a bennir yng Ngholofn 1.

Tabl 10A
Colofn 1 Colofn 2
Blwyddyn academaidd Swm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018 £6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudioDidynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 1 o swm cymwys y cymorth byw a nodir yng Ngham 2.Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr.
(3) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.”
7 
Yn rheoliad 81(2) (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd), yn lle is-baragraff (a) rhodder—“
(a) yn achos grant, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau y flwyddyn academaidd, ac, yn achos benthyciad cynhaliaeth, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau tymor y flwyddyn academaidd, sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd yn y naill achos neu’r llall, a”
8 
Yn rheoliad 93 (cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau a dreulir yn y carchar), yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor.”
9 
Yn rheoliad 94 (cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau eraill o absenoldeb), yn lle paragraff (2) rhodder—“
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs.”
10 
Yn rheoliad 95 (taliadau pan fo’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu), yn lle paragraff (1) rhodder—“
(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd pan fo cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.”
Kirsty Williams
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
3rd Gorffennaf 2018